Mae Emma wedi gweithio i Mudiad Meithrin ers 2010 ar ôl ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (NVQ). Datblygodd ddiddordeb mewn addysg gynnar pan roedd ei phlant hi ei hun yn ifanc, pan roedd edrych am newid trywydd yn ei gyrfa.
Ar ôl cymhwyso aeth i weithio fel cymhorthydd dosbarth, cyn symud ymlaen i weithio fel tiwtor ac asesydd Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam i’r Mudiad. Yn ôl Emma mae gweithio ym myd addysg fel hyfforddwr wedi rhoi cyfle iddi gyfrannu at ddatblygiad plant a phobl ifanc ac mae’n deimlad gwych gweld myfyrwyr yn llwyddo ac yn symud ymlaen i’r lefel nesaf yn eu gyrfa nhw.
Meddai Emma: “Ers dilyn y cwrs cyntaf un yna efo’r Mudiad rydw i wedi cael gymaint o gyfleoedd newydd. Derbyniais gymhwyster fel Asesydd yn 2012 trwy Cam wrth Gam, ac wedi gweithio fel tiwtor ac asesydd am gyfod o tua 10 mlynedd. Bellach, ers Rhagfyr 2020 rydw i’n Ddirprwy Reolwr Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam.”
Dros y blynyddoedd mae Emma wedi mynychu nifer o gyrsiau Academi – a phob un wedi ei helpu hi i ddatblygu sgiliau newydd ac i wella ei gwybodaeth a’i dealltwriaeth o’r maes.
__
Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam – Dyma gynllun Mudiad Meithrin ar gyfer myfyrwyr TGAU ac ôl 16. Mae’n cynnig cyrsiau amrywiol ym maes gofal, addysg a datblygiad plant drwy gyfrwng y Gymraeg i ysgolion uwchradd ledled Cymru. Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam – Mudiad Meithrin
Academi – Hyfforddiant arbenigol sy’n rhad ac am ddim i bawb sy’n rhan o gymuned Mudiad Meithrin, o Gylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin i Feithrinfeydd Dydd ar hyd a lled Cymru. Darparu hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr Academi – Mudiad Meithrin