16-25? Huriwch feic am ddim!

Cyfle gwych gan Beics Antur

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Beics Antur ar y cyd â Chyngor Gwynedd, Gisda a Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd hurio beics ar gael am ddim rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2022 i bobol ifanc 16-25 oed.

Mae Beics Antur yn siop hurio beics wedi’i leoli yng Nghaernarfon, ac mae’n rhan o deulu Antur Waunfawr, sy’n darparu cyfleoedd gwaith i oedolion gydag anableddau dysgu. 

Mae’r siop wedi ei lleoli ym Mhorth yr Aur yn y dref.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno manteisio ar y cyfle gysylltu gyda Beics Antur i drefnu, a hynny drwy ffonio 01286 672622 neu anfon e-bost i beics@anturwaunfawr.cymru.