Mae 5 aelod o ganolfan perfformiad Nofio Gwynedd, sydd yn hyfforddi yng ganolfan Hamdden Arfon yn Gaernarfon wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru yn y pwll.
Fe fydd y 5 Gruff, Ffion, Efa, Cadi ag Ela yn mynychu sesiynnau hyfforddi ym Mhwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe ac yn gobeithio dilyn llwybr cyn aelod or gaoldan perfformiad sef Medi Harris.
Mae’r nofwraig llwyddianus yn astudio yn Brifysgol Abertawe. Yn ystod y flwyddyn mae Medi wedi cynrychioli Cymru yn gemau’r Gymanwlad ac ennillodd medal efydd yn y 100m Cefn. Cafodd Medi gemau Ewropiaidd llwyddianus iawn hefyd, yn ennill Aur yn y râs gyfnewid, 4 x 100m dull rydd, Arian yn râs 100m Cefn, Arian yn y râs gyfnewid 4 x 200mm dull rydd ac Efydd yn y râs gyfnewid 4 x 100m dull cymusg.
Mae hi’n argoeli i fod yn flwyddyn lwyddianus arall ir gaolfan berfformiad o gornel fach o Cymru sydd yn denu nofiwyr o Fôn, Arfon, Dwyfor ac Eifionydd. Mae’r diolch yn mynd ir prif hyfforddwraig Bron Hill ar hyfforwyr eraill di flino, yn ogystal a’r gwiddfoddolwyr sydd yn gweithio’n galed i drefnu cystalaethau nofio ac i godi arian ac ir nofwyr eu hunain am yr ymroddiad sydd ei angen i gyraedd y brig yn eich maes. ???