Menter Cymunedol Perthyn – Bethel

Pentref Bethel yn sefydlu Menter Cymunedol Newydd i Ddatblygu Caffi Perthyn

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes

Dymunwn ofyn am eich cefnogaeth i gefnogi datblygiad Menter Cymunedol Perthyn yn Bethel.

Mae Caffi Perthyn wedi bod yn gaffi hynod lwyddiannus ym mhentref Bethel ers agor eu drysau ond gyda costau byw yn codi mae’r busnes yn wynebu heriau newydd.

Byddai yn wir siomedig weld drysau Caffi Perthyn yn cau ac byddai’r pentref a’r ardal golled o leoliad canolog i drigolion y fro gymdiethasu gyda Bethel yn dod yn le di-enaid heb galon.

Oherwydd pryder y byddai hyn yn gwneud cam mawr â’r gymuned, a’r cenedlaethau sydd i ddod, daeth grŵp cymunedol bychan o wirfoddolwyr at ei gilydd i sefydlu Menter Cymunedol Perthyn, gan ffurfio pwyllgor llywio ar y pryd.

Mae ein hamcanion yn syml: “I gynnal a chadw Caffi Perthyn yn agored gan ddatblygu a ehangu i agor siop gymunedol draddodiadol Gymreig, mewn iaith ac ethos er lles y gymuned ac er pleser i unrhyw un sydd yn dymuno dod i mewn drwy ei drysau.

Er mwyn symud ymlaen gyda’r fenter hon, mae Menter Cymunedol Perthyn yn gobeithio codi arian i gychwyn y Fenter ac i agor drysau Caffi Perthyn cyn gynted a phosib i sicrhau gallu gwneud ceisiadau i dderbyn grantiau tymor hir a rhoddion, a dyma lle’r ydym angen eich cefnogaeth chi.

Gwerthfawrogwn ei bod hi yn amser annodd i bawb ond byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad.

Diolch

https://gofund.me/789cfb8a

Cofiwch ddilyn tudalen ‘Perthyn’ ar Facebook am ddiweddariadau.