Partneriaeth Atal Digartrefedd Pobl Ifanc Gwynedd

Mudiadau yn gweithio gyda’u gilydd i atal digartrefedd

gan Ceri Hughes
Untitled-940-×-708px

Yma yn GISDA rydym wedi bod yn hynod ffodus o dderbyn arian gan y Loteri Genedlaethol i ddatblygu partneriaeth gryf i daclo digartrefedd ymysg pobl ifanc yng Ngwynedd. Buddsoddiad sy’n galluogi GISDA i barhau cefnogi pobl ifanc y gymuned drwy weithio mewn partneriaeth â mudiadau gwahanol i ddatblygu cynllun sy’n mynd a ni gam yn agosach i atal digartrefedd ym maes pobl ifanc ar draws Gwynedd.

Mae llais pobl ifanc yn ganolog i’r gwaith rydym yn ei wneud yma yn GISDA, oherwydd hyn rydym eisioes wedi darganfod rhai rhwysterau mae pobl ifanc yn ei wynebu: diffyg llety addas, costau byw cynyddol a chydlynu’r gefnogaeth sydd ar gael gan gymysgedd o sefydliadau. Mae angen i fudiadau weithio gyda’i gilydd er budd pobl ifanc Gwynedd.

“Dylai gwasanaethau ddod at eu gilydd i helpu cefnogi pobl ifanc fel eu bod yn cael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa ac y problemau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Pe bai’r holl wasanaethau’n gweithio gyda’u gilydd byddai’n haws i bobl ifanc allu cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd ei angen.”

– Person Ifanc sy’n mynychu bwrdd pobl ifanc.

Mi fydd pobl ifanc Gwynedd yn ganolog i’r gwaith, gyda’u lleisiau yn cael eu clywed mewn trafodaethau, cyfarfodydd a phenderfyniadau ar hyd y daith.

Ein gweledigaeth ydi gallu creu cynllun tymor hir ar gyfer taclo digartrefedd yn ardaloedd gwledig Gwynedd. Drwy gyd-weithio gyda mudiadau lleol byddwn yn cryfhau ar ein rhwydwaith o bartneriaethau, drwy ehangu i gynnwys y sector breifat a mudiadau eraill. Mi fydd y rhwydwaith o bartneriaid yn cynnwys GISDA Cyf, Cyngor Gwynedd, ADRA (Tai), Fedra’i Betsi Cadwaladr, M-Sparc, Arloesi Gwynedd Wledig, Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru a Dafydd Hardy, yn cyd-weithio i geisio datrys heriau a’r rhesymau dros ddigartrefedd gan adnabod pam bod nifer yn colli eu cartref yng Ngwynedd.

Dywedodd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

“Mae’n ffaith drist bod digartrefedd yn effeithio ar nifer fawr o bobl Gwynedd, ac nid yw pobl ifanc yn eithriad. Rydw i felly’n falch iawn ein bod yn dod at ein gilydd i gydweithio i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon trwy chwilio am gyfleoedd newydd ac arloesol er mwyn atal digartrefedd ymysg ein pobl ifanc.”

Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra:

“Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â digartrefedd. Mae digartrefedd yn fater all effeithio ar unrhyw un ond mae risg penodol i bobl ifanc ddod yn ddigartref. Unwaith y bydd rhywun yn ddigartref, gall effeithio ar eu hiechyd, perthnasoedd a’u gallu i fynd i’r coleg neu ddod o hyd i waith.

“Dydi hwn ddim yn fater y gall un sefydliad ei ddatrys ar ei ben ei hun felly mae’n wych gweld y bartneriaeth gref yng Ngwynedd. Mae’r hyn sy’n digwydd i bobl ifanc yn bwysig i ni gyd felly drwy gydweithio gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Dwi’n edrych ymlaen at gwrdd â rhai o’r bobl ifanc a darganfod sut mae’r bartneriaeth hon wedi trawsnewid eu cyfleoedd mewn bywyd.”

Dywedodd Mike Tanner ar ran cwmni Dafydd Hardy:

“Syniad gwych, a gobeithio drwy ein profiad yn y farchnad eiddo y gallwn gyfranu tuag at y cynllun hir dymor o ddatrys y broblem o ddigartrefedd i bobl ifanc Gwynedd”

Mae’r prosiect hwn yn un hynod o gyffrous gan dyma’r tro cyntaf i’r bartneriaeth yma weithio gyda’i gilydd! Nid oes fforwm traws sector fel hyn ble gall mudiadau rannu profiadau, arbenigedd a syniadau ar atal digartrefedd ym maes pobl ifanc. Mae’r bartneriaeth yn teimlo’n angerddol dros daclo digartrefedd a rhyngom gallwn ddatblygu cynllun cryf.

Teimlwn yn gryf bod prosiect o’r fath yn arloesol gan gynnig budd enfawr i bobl ifanc ac yn gyfraniad amhrisiadwy tuag at daclo digartrefedd gwledig.

“Mae’n wych gweld cymaint o fudiadau yn cyd-weithio er budd pobl ifanc. Mae digartrefedd a’r diffyg mynediad at lety diogel ac addas yn parhau i fod yn un o brif heriau sy’n wynebu pobl ifanc heddiw. Mae GISDA yn credu yn y pwysigrwydd o weithio mewn partneriaeth ac yn rhannu brwdfrydedd y partneriaid ar fynd i’r afael â taclo digartrefedd. Mae’r bartneriaeth yma yn mynd i’n galluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc Gwynedd.”

– Carwyn George, Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi a Llety GISDA