Procio Emosiwn

Life:Full Colour yn dathlu artistiaid Cymraeg

gan Elliw Llŷr
image-1

Rhai o’r lluniau yn yr arddangosfa

image-2

Lluniau a chelf yn yr arddangosfa

Agorwyd trydedd arddangosfa Sara yn Stryd Twll yn Wal nos Wener ddiwethaf, teitl ar gyfer y lluniau a chelf oedd Emosiwn. Eglurodd Sara fod 4 ar banel yr artistiaid yn cynnig cyfle i eraill sydd yn amatur neu rannol broffesiynol i gael arddangosfa eu lluniau.

Ceir cymysgedd o luniau drwy wahanol gyfrwng yng nghyd a chelf, mae un artist yn defnyddio pigment wy fel defnyddiwyd yng nghyfnod y Renaissance.

Mae yna artistiaid preswyl sydd hefyd yn dangos eu gwaith am gyfnod o 4-6 wythnos ar y tro. Cynhelir digwyddiadau yn aml gyda chroeso i unrhyw un fynd yna i weld ac eistedd i edmygu’r gwaith.

Maent hefyd yn cynnal sesiynau celf yng Nghei Llechi gyda digwyddiadau ymlaen fel rhan o Ffair Nadolig Cei Llechi. Rhagor o wybodaeth i ddilyn am hyn.

Maent yn rhan o Gynllun Casglu Cymru ac mae’r arddangosfa ymlaen tan 24 Rhagfyr.