Uned strôc newydd yn Dre

Mae’n un o dair canolfan adfer newydd ar draws gogledd Cymru

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae canolfan adferiad ôl-strôc newydd wedi agor yng Nghaernarfon, ac mae’r Aelod lleol yn y Senedd wedi ymweld â’r cyfleusterau.

 

Mae Siân Gwenllian AS yn cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd Cymru, ac yn ddiweddar mae wedi ymweld â’r uned sydd am weddnewid gofal i gleifion sydd wedi dioddef strôc.

 

Mae’r uned adfer ôl-strôc newydd ar agor i gleifion yn Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon ac mae’r bwrdd iechyd yn gobeithio y bydd yn helpu cleifion strôc wrth iddynt wella.

 

Mae’r uned ymysg tair o’i math yng ngogledd Cymru sy’n darparu gofal adsefydlu i gleifion. Bydd agwedd holistig yr uned tuag at y broses wella yn rhoi’r cyfle gorau i gleifion allu adfer yn llawn, a hynny gyda chymorth ystod o arbenigwyr amlddisgyblaethol gan gynnwys Ffisiotherapyddion, Nyrsys, Meddygon, Seicolegwyr, Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Dietegwyr a Therapyddion Galwedigaethol. 

Bu Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli’r ardal yn y Senedd, yn ymweld â’r uned yn ddiweddar: 

“Gall strôc gael effaith andwyol ar gymaint o wahanol agweddau ar iechyd unigolyn, a dyna pam fod y driniaeth gynhwysfawr sy’n cael ei chynnig yn yr uned hon yn bwysig. Mae’n rhoi cyfle go iawn i gleifion fedru gwella. 

“Mae ffocws mawr ar adferiad hirdymor, dan law gweithwyr iechyd proffesiynol o wahanol feysydd. 

“Cefais gyfle i gwrdd ag un unigolyn yn benodol ar fy ymweliad. 

“Roedd Peter Perkins o Amlwch yn amlwg dan deimlad wrth iddo drafod pwysigrwydd yr uned hon, a pha mor ddiolchgar oedd o am eu gofal. 

“Mae’n rhoi gobaith go iawn am adferiad a dechrau newydd i bobl sydd wedi bod drwy brofiad trawmatig. 

“Hefyd, mae hyn yn digwydd o fewn y gymuned ac yn nes at gartrefi pobl, sy’n hollbwysig. 

“Mae annibyniaeth bersonol yn rhywbeth rydyn ni’n aml yn ei gymryd yn ganiataol ond yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn dymuno ei gael. 

“Mae’r cyfleusterau newydd yng Nghaernarfon yn gymorth i gleifion strôc fedru adennill eu hannibyniaeth a’u hyder. 

“Hoffwn ddiolch i’r bwrdd iechyd a’r holl staff am wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobol yr ardal.”