Mae pawb yn nabod Siân fel Aelod o’r Senedd dros ardal Arfon, ond mae hi hefyd yn gyfrifol am drafod ar ran Plaid Cymru efo Llywodraeth Cymru yn eu Cytundeb Cydweithio.
Fel rhan o’r Cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth, bydd pob un disgybl ysgol cynradd yn derbyn cinio am ddim. Mae’r polisi yn cael ei gyflwyno’n ara deg, gan ddechrau gyda’r plant ieuengaf ym mis Medi.
Yn ddiweddar aeth Siân draw i Ysgol yr Hendre, un o bedair ysgol gynradd yn Dre i weld drosti ei hun y gwaith sy ar y gweill i baratoi ar gyfer cyflwyno polisi Cinio Ysgol am Ddim i bob plentyn cynradd.
Bydd 45,000 yn fwy o ddisgyblion yn gymwys o’r cychwyn cyntaf, a thua 66,000 o ddisgyblion yn elwa o’r polisi yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae £35m wedi ei roi i gefnogi’r paratoadau.
Yn ddiweddar aeth Aelod o’r Senedd Arfon draw i Hendre i weld enghreifftiau o sut mae ysgolion yn recriwtio mwy o staff ac yn addasu eu hoffer cegin er mwyn paratoi.
Yn ôl Siân:
“Roedd yn brofiad anhygoel ymweld ag ysgol yn Arfon i weld un o flaenoriaethau pwysicaf Plaid Cymru yn cael ei roi ar waith.
“Mae Ysgol yr Hendre wedi cael estyniad i’r gegin, yn ogystal ag offer newydd i baratoi ar gyfer cyflwyno’r polisi. Maen nhw hefyd wedi recriwtio mwy o staff a bydd angen mwy wrth i brydau am ddim gael eu cynnig i fwy a mwy o ddisgyblion.
“Mae cynnig prydau ysgol am ddim yn un o’r pethau pwysicaf y medrwn ni ei wneud i fynd i’r afael â thlodi a newyn plant yng Nghymru – drwy wneud yn siŵr fod plant yn cael pryd maethlon, yn rhad ac am ddim fel rhan o’r diwrnod ysgol.”
Cafodd Siân daith o gyfleusterau’r ysgol gan Mr. Kyle Jones, pennaeth Hendre. Yn ôl Mr. Jones:
“Mae Prydau Ysgol am Ddim yn bolisi cyflawn: mae’n mynd i’r afael ag effeithiau tlodi, ond mae hefyd yn arwain at ddiet iachach, yn cyflogi mwy o weithwyr lleol, ac yn rhoi hwb i’r gadwyn fwyd leol.”
Ychwangeodd Siân:
“Mae Plaid Cymru hefyd isio gweld y polisi yn cael effaith ar addysg y plant. Rydan ni isio gweld disgyblion yn dysgu o le mae’r bwyd yn dod, a dysgu am bwysigrwydd bwyta cynnyrch lleol sydd ddim yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.
“Yn y cyfnod economaidd ansicr rydan ni’n byw drwyddo, mae Cymru’n gweithredu go iawn i gefnogi teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd.
“Dyma pam ddes i’n Aelod o’r Senedd, i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Fel cyn Aelod Cabinet dros Addysg, cyn-Lywodraethwr Ysgol ac fel rhiant fy hun, mae darparu prydau ysgol am ddim wedi bod yn uchelgais personol i mi.
“Roedd mynd i ysgol yn Arfon i weld yr uchelgais hwnnw’n cael ei wireddu yn emosiynol.”