Annwn: gwell os bydd hi’n bwrw!

Sioe laser yn dod i Gaernarfon

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
4R0A8607-1

croeso cymru

Yn ôl criw cynhyrchu Annwn, sioe laser a sain arbennig yng Nghastell Caernarfon sy’n cynnwys perfformiad gan yr artist o Gymro Gruff Rhys, bydd y sioe hyd yn oed yn fwy trawiadol os bydd hi’n bwrw glaw yn ystod y digwyddiad.

Mae Annwn yn sioe laser a sain a fydd yn cael ei pherfformio dros dair noson (Hydref 27-9, 2023) yng Nghastell Caernarfon. Does na’r un sioe fel hon wedi cael ei pherfformio o fewn muriau’r castell o’r blaen.

Mae’r sain wedi’i greu’n arbennig ar gyfer Annwn gan Gruff Rhys, yn seiliedig ar ei gasgliad blaenorol, ei archif a’i arbrofi diweddaraf. I gyfeiliant y sain, bydd y gynulleidfa yn mwynhau gwledd o olau a laser gan Chris Levine.

Yn ôl Cadw, fyddai Edward y 1af ddim yn ffan o’r perfformiad.

Dywedodd Dr. Ffion Reynolds, Rheolwr Treftadaeth a Chelfyddydau Cadw:

“Rydan ni’n gyffrous iawn i ddod ag Annwn i gynulleidfaoedd yng Nghastell Caernarfon yr wythnos hon. Mae cael yr hen a’r newydd ochr yn ochr yn gwneud rhywbeth arbennig iawn i safleoedd treftadaeth. Mae’n codi’r cwestiwn: hanes pwy yw e beth bynnag? Mae creu isfyd Cymreig y tu mewn i gastell Edward 1af yn ffordd i ni newid y ffordd o adrodd straeon mewn llefydd sy’n cael eu dehongli mewn ffyrdd gwahanol. Fyddai Edward y 1af yn cymeradwyo? ‘Da ni’n gobeithio ddim!”

Bydd profiad y gynulleidfa bob nos yn para tua phedair awr. Bydd modd symud o gwmpas y castell yn ystod y sioe. Fydd ’na ddim llwyfan na seddi – ond mae croeso ichi ddod â’ch cadair eich hun. Bydd cerddoriaeth Gruff Rhys wedi’i chymysgu gan y dylunydd sain Marco Perry yn chwarae drwy gydol y noson. Ac yna hanner ffordd, bydd Gruff Rhys yn perfformio set electronig gydag elfennau byw, yn cynnwys trac newydd a cherddoriaeth o’i ôl-gatalog. Gall y gynulleidfa fynd a dod yn ôl eu dymuniad yn ystod y noson.

Ond be sy’n digwydd os y bydd hi’n bwrw glaw? Bydd hynny, yn ôl Chris Levine yr artist laser, yn ychwanegu at y naws:

“Mae Annwn yn ymwneud â’r cymysgedd o sain 3D a lasers, wedi’i daflunio ar waliau hanesyddol Castell Caernarfon. Dan awyr y nos, bydd y goleuadau laser yn syfrdanol ac os bydd yn niwlog, yn gymylog, neu’n bwrw glaw, bydd hyd yn oed yn fwy trawiadol. Gobeithiwn weld pob elfen o dywydd gogledd Cymru dros y penwythnos ac mi fydd hi’n wahanol iawn bob nos. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gwisgo’r dillad cywir a mwynhau.”

Yn ôl Gruff Rhys:

“Os da ni’n lwcus mi fydd hi’n bwrw glaw! Dwi’n meddwl y bydd yn sioe drawiadol, ond arbrofol hefyd. Fydd o’n brofiad ysgytwol dwi’n meddwl. Mae’r enw Annwn yn cyfleu’r syniad mewn ffordd… mynd mewn i isfyd gwbl wahanol, realiti gwahanol. Creu profiad mewn ffordd yn hytrach na chyngerdd yn gwatshad rhywun yn canu. Dio ddim fel gig ffurfiol – fyddai ddim yn neud perfformiad mawr, fyddai jest yn y cefndir efo synths ac yn canu.”

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal er budd Samariaid Cymru. Ar Dachwedd 2 mae’r Samariaid yn dathlu 70 mlynedd o fod yn glust i wrando.

Yn ôl Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol y Samariaid yng Nghymru:

“Rydym yn gyffrous iawn ac yn ddiolchgar i’r tîm yn Annwn am ddewis Samariaid Cymru fel eu helusen. Mae’r digwyddiad arloesol hwn yn ceisio dod â phobl ynghyd i rannu profiad unigryw ac mae ffocws cryf ar gysylltiad dynol. Mae hwn yn un o werthoedd craidd y Samariaid – credwn fod cysylltiad yn ffactor amddiffynnol cryf ar gyfer risg hunanladdiad a chredwn y gall tosturi dynol newid ac achub bywydau.

Mae ein gwirfoddolwyr anhygoel yng Nghymru yno i unrhyw un sy’n cael trafferth ymdopi, hyd yn oed yn yr oriau tywyllaf hynny. Mae’r digwyddiad anhygoel hwn yn cyd-fynd â 70 mlynedd o Samariaid ac rydym am ddefnyddio’r cyfle hwn i gydnabod uchelgais ac angerdd enfawr ein holl wirfoddolwyr. Byddwn yn parhau i fod y golau disglair hwnnw i’r rhai sydd mewn trallod ac rydym am i bawb yng Nghymru wybod bod gwneud y cysylltiad hwn, ac estyn allan atom, yn gryfder enfawr, nid yn wendid.”

Yn ôl Peter Hempel, Cyfarwyddwr/Cynhyrchydd Creadigol Annwn:

“Mae’r syniad o greu gwaith arbrofol pwerus sy’n hybu lles drwy gysylltu pobl â’i gilydd ac â byd natur yn ganolog i weledigaeth Annwn ac i’n partneriaeth â’r Samariaid, mae cysylltiad yn hollbwysig iddynt.”