Beicio i Bawb

Beicio cynhwysol gydag Antur Waunfawr

gan Ceri Hughes

Mae Beics Antur yn arwain ar drawsnewid seiclo yn y gymuned drwy ei brosiect arloesol, “Beicio i Bawb.”

Bydd prosiect newydd Beicio i Bawb yn cyflwyno amrywiaeth o sesiynau a gweithgareddau beicio fforddiadwy i drawstoriad o’r gymdeithas gan gynnwys disgyblion ysgol, pobl ifanc difreintiedig, henoed, unigolion ag anableddau dysgu, a phresgripsiwn cymunedol.

Gyda chefnogaeth gan Gronfa Ffyniant Cyffredin, prif nod y prosiect hwn yw hyrwyddo Iechyd a Llesiant a Theithio Llesol Cymru drwy wella mynediad i feicio hygyrch a fforddiadwy, gwella sgiliau, magu hyder ac annog pobol o bob oedran a gallu yn ein cymdeithas i feicio.

Hoffech chi fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn?  

Mae Beics Antur chwilio am ddau berson sy’n llawn cymhelliant i ymuno â’u tîm fel Swyddogion Beics Antur. Felly os rydych chi’n berson sydd â diddordeb mewn beicio ac yn frwdfrydig i rannu eich angerdd gyda’r gymuned, ewch i’r wefan i ddysgu mwy neu mae croeso i chi ffonio ar 01286 650721 am sgwrs anffurfiol.