Murlun newydd yn Dre

Mae’n dod â bach o liw i Barc Coed Helen!

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
438172886_425332460116411

Lluniau gan Dic Thomas

438128183_425332266783097

Lluniau gan Dic Thomas

440213873_425332636783060

Lluniau gan Dic Thomas

438173632_425332320116425

Lluniau gan Dic Thomas

Mae pobol ifanc o glwb ieuenctid sy’n cael ei redeg gan Porthi Dre wedi bod yn brysur yn peintio murlun hyfryd ym Mharc Coed Helen, Dros yr Aber.

Mae’r murlun, sydd wedi’i beintio mewn cydweithrediad â rhwydwaith gelfyddydol Carn yn barod jest mewn pryd ar gyfer Gŵyl Fwyd Caernarfon, a’r ardal arbennig i deuluoedd sy’n rhan o’r Ŵyl leni!

Mae ardal ‘Hwyl Dros yr Aber’ yn cael ei threfnu i sicrhau fod Gŵyl Fwyd Caernarfon yn ŵyl i’r teulu cyfan, ac yn addas i bawb o bob oed. Bydd yr ardal yn cynnwys gweithgareddau gan yr Urdd, Byw’n Iach, lloc anifeiliaid, Mulod Eryri, cestyll bownsio, a llwyfan arbennig sy’n cynnwys perfformiadau gan Sioe Cyw.

Clwb ieuenctid Porthi Dre wnaeth gynllunio’r murlun newydd yn ogystal â’i beintio, gyda chymorth gan Jess Balla, yr artist.

Mi ddywedodd y Cynghorydd Dawn Lynne Jones, sy’n gwirfoddoli efo’r criw o bobl ifanc: “Diolch i Jess am rhoid cyfle iddynt rannu eu syniadau a dangos eu dawn artistig wrth rhoid eu syniadau ar waith.”

Bydd y murlun newydd yn dod â digon o liw i’r ardal newydd, felly cofiwch fynd draw i dynnu lluniau!

Dweud eich dweud