Betsan yn dod adra i berfformio!

Dyma berfformiad llwyfan proffesiynol cyntaf Betsan

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Un o sêr y gyfres deledu Rybish sy’n chwarae rhan Nel yn y cynhyrchiad llwyfan sy’n bwrw golwg ar fywyd merch ifanc yng nghefn gwlad Cymru.

Mae Croendenau, drama gan Mared Llywelyn yn cael ei disgrifio fel dramedi, drama sy’n mynd i’r afael â’i thestun drwy gyflwyno elfennau comig. Mae Croendenau yn cyffwrdd ar themâu fel ail garterfi a’r argyfwng iechyd meddwl yng nghefn gwlad Cymru, ac un o ferched o ardal Caernarfon fydd yn serennu ynddi.

Un o Gaeathro yw Betsan Ceiriog. Mae’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon. Astudiodd ar gyfer BA Perfformio yng Nghaerdydd yng yng Ngholeg y Drindod Dewi Sant, gan radio yn 2018.

Yn ôl Betsan:

“Yn naturiol, ’dwi’n nyrfys, yn enwedig gan ei bod hi’n sioe un person, ond ’dwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy at gamu ar y llwyfan.

“Mae’r themâu sy’n cael eu trafod am fod yn berthnasol i fwyafrif o bobl ifanc sydd yn tyfu fyny yng nghefn gwlad Cymru. ‘Dwi’n siwr y bydd lot yn uniaethu â Nel.

“Dyma’r ddrama un person cyntaf i mi wneud felly mae’n brofiad gwahanol bod ar lwyfan ar ben fy hun, ond ’dwi wir yn edrych ymlaen.”

Bydd Croendena yn ymweld â Galeri, Caernarfon 20-22 Chwef