Caffi Creu x Pontio’r Cenedlaethau

Mae Gisda a Pontio’r Cenedlaethau yn ôl gyda cyfres o sesiynau Caffi Creu arbennig

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts

Ydych chi’n hoff o arddio? Neu a ydych chi’n dymuno dysgu mwy? Dewch draw i’r sesiynau Caffi Creu ble bydd cyfle i bobl o bob oed ddod at ei gilydd i arddio!

Mae Gisda a Phontio’r Cenedlaethau, Cyngor Gwynedd yn dod at ei gilydd unwaith eto i gynnal sesiynau Caffi Creu arbennig sydd yn rhannu sgiliau rhwng pobl o bob oed – y tro hwn – garddio sydd dan sylw!

Bydd y sesiwn gyntaf o’r gyfres gyffrous yma yn cael ei gynnal ar y 23ain o Ionawr am 3yh yn swyddfa Gisda yng Nghaernarfon (23 y Bont Bridd, Caernarfon). Mae croeso cynnes i bawb!

Byddwn yn treulio’r sesiwn yn creu potiau unigryw ac yn plannu hadau – bydd croeso i bawb fynd a’u gwaith adre gyda nhw os dyna’r dymuniad!

Dewch yn llu – i ddysgu mwy ffoniwch Mirain ar 01286 682818.