O Gaernarfon i Efrog Newydd

Carwyn Rhys Jones yn mynd a hanes Cymru ar daith i Efrog Newydd

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes

Mae gwaith celf a Arddangosiad ‘Chwarelwyr’ Carwyn Rhys Jones wedi cael ei ddewis i gynrychioli Cymru i fynd draw i Efrog Newydd yn mis Mai.

Mae’r ffotograffydd o Landwrog ger Caernarfon yn cael y cyfle i fynd draw i Efrog Newydd gyda’i waith.

Dechreuoedd y prosiect hwn yn Amgueddfa Lechi Llanberis ac yno aeth draw i Amgueddfa Y Glannau yn Abertawe, Amgueddfa Narberth yn Sir Benfro ac yn ddiweddaraf yn Amgueddfa Rheilffyrdd yn Tywyn.

Dywedodd Carwyn:
“Mae o yn fraint mawr genai fod fy ngwaith yn cael mynd draw i America. Mae o yn gyfle i ddatblygu ein perthynas fel dau wlad ac i addysgu a rhannu am ein treftadaeth ac hanes. Mae yna gymaint o hanes o Gymraeg draw yn America ac yn anffodus ar hyn o bryd nid yw ein cenedl ddim yn cael ei dysgu am agweddau hanesyddol lleol fel hyn yn yr ysgol.

Mae’r Cymry wedi llwyddo gymaint ar draws y byd ac dwi wir yn edrych ymlaen i ddatblygu ein perthynas ac ein hanesion. Byddai yn rhoid cyflwyniad yn yr amgueddfa ar noson agored draw yn Efrog newydd ar y 19fed o Fai.”

Mae’r gwaith wedi cael ei hysbysybu draw yn Philadelphia yn ‘The North Ameircan Festival of Wales’ gan Llywodraeth Cymru sydd yn fraint i Carwyn fod y gwaith yn cael ei weld mewn sawl talieithau gwahanol yn America.

Bydd Carwyn yn rhoi y cyflwyniad ar y 19ain ac 20fed o Fai ac yn ymweld gyda ysgolion lleol i weithio gydant ac ei addysgu am yr hanes ac y broses o greu amlygiad dwbl “double exposure”.

Mae Carwyn yn edrych ymlaen cael gwneud prosiect celf gyda ysgolion lleol ac yn obeithiol i ysbrydoli ac i dangos pwer ffotograffiaeth ac sut allwn ni gyfleu stori trwy luniau.

Mae’r gwaith ar hyn o bryd am fod yn Efrog Newydd ac wedyn mynd ymlaen i daleith Vermont. Mae Carwyn yn hynod falch bod y gwaith yn barod wedi cael diddoreb gan talaith arall i gael ei arddangos mewn amgueddfa arall yn America.

Dwi’n obethiol gweld y gwaith yn cael trafeilio o amglych i godi ymwybyddiaeth a rhannu straeon chwarelwyr Cymru ac yn cael ei adrodd i bobol yn America.

Dechreuoedd y prosiect hwn fel datblygiad o waith roedd Carwyn wedi ei wneud yn y brifysgol am dirwedd chwareli a cafodd ei gefnogi gan Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.

Roedd y prosiect yn cynnwys rhai chwareli yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys Mynydd Parys, Dorothea, Penrhyn, Alexandra a’r Oakeley. Roedd y gwaith yn canolbwyntio ar sut roedd y tir wedi newid oherwydd y diwydiant a sut y ffurfiodd tirwedd newydd o amgylch y chwareli.

Y cam naturiol nesaf oedd edrych ar bobl y chwareli. Yn anffodus, dim ond ychydig o chwarelwyr sydd gyda ni bellach, felly roedd yn amserol i gipio a chofnodi’r hanes a’r dreftadaeth bwysig hon.

Cafodd y prosiect hwn ei ysbrydoli gan syniadau’r chwarelwyr, felly roedd hi ond yn briodol i enwi’r arddangosfa i adlewyrchu hynny – Arddangosfa ‘Chwarelwyr’.

Mae’r arddangosfa wedi’i ffurfio yn ddwy ran: rhaglen ddogfen fer a ffotograffiaeth i gyd-fynd â hi.

Trefor oedd y chwarelwr cyntaf i Carwyn gyfweld. Roedd yn adnabyddus yn lleol fel Robin Band oherwydd bod y rhan fwyaf o’i deulu mewn bandiau. Bu’n gweithio yn chwarel lechi Trefor am rai blynyddoedd, a rhannodd atgofion gwych am yr amseroedd da, drwg a doniol yno.

Y nesaf oedd Dic Llanberis, a oedd, fel yr awgryma ei enw, wedi ei leoli yn Llanberis. Roedd gan Dic brofiad blynyddoedd a chymaint o wybodaeth am hanes Chwarel y Dinorwig. Defnyddiais yr un broses ar gyfer pob un o’r pum Chwarelwr: eu cyfweld, yna ffilmio ac yn olaf, tynnu lluniau ohonynt. Gweithiodd Dic yn y chwarel hyd yn oed ar ôl iddo gau i lawr ym 1969, er mwyn helpu i glirio’r llechi oedd yn weddill.

Wedyn, tro Andrew JonJo a Carwyn oedd hi. Roedd y ddau wedi gweithio yn chwarel y Penrhyn ym Methesda ar gyrion Bangor. Fe wnes i gyfweld a’r ddau ohonynt yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis lle maen nhw bellach yn gweithio. Andrew yw’r olaf o chwe chenhedlaeth o chwarelwyr yn ei deulu a oedd i gyd wedi gweithio mewn dwy chwarel: Dinorwic a Phenrhyn. Fel y gallech ddychmygu, siaradodd yn deimladwy am y ffordd y ganwyd i mewn i’r diwydiant. Daw Carwyn o deulu chwarela mawr hefyd, roedd rhai ohonynt wedi gweithio yn yr Ysbyty’r Chwarelwyr yn Llanberis. Gellir dod o hyd i nifer o lofnodion ei hynafiaid yn llyfrau’r Amgueddfa’r Ysbyty Chwarel, yn cofnodi gweithdrefnau llawfeddygol.

Yn olaf, cyfarfodwyd Carwyn gyda John Pen Bryn, a oedd wedi ei leoli yn Nhalysarn, tu allan i Gaernarfon. Roedd y chwarel hon mor fawr, cyfwerth cynnwys pentref cyfan, a roedd John wedi ei fagu yno.

Mae bellach yn berchen y chwarel ac wedi byw yn Nhalysarn ar hyd ei oes. Cafodd Carwyn ei dywys o gwmpas y chwarel a’r lleoliad roedd y pentref arfer bod – anodd dychmygu erbyn heddiw fod wedi bod unwaith yn le prysur gyda tair siop ynddi. Roedd John yn llawn straeon ac yn gwybod popeth oedd wedi digwydd yn ei chwarel dros y blynyddoedd.

Yn anffodus, mae Robin Band a Dic Llanberis ill dau wedi eu claddu ers cwblhau’r arddangosfa, ac felly mae’r ffilm sy’n cyd-fynd â hi yn gorffen gyda delweddau ohonynt.

Roedden nhw ar y cyd gyda Carwyn yn falch tu hwnt eu bod wedi llwyddo i gipio rhai o’u straeon a dogfennu’r dreftadaeth a’r hanes pwysig hwn mewn pryd a bod y gwaith yn cael cydnabyddiaeth am yr holl ymdrechion.

Mae Carwyn yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran yn y gwaith o greu’r arddangosfa ac yn gobeithio fod pawb wedi mwynhau ymweld a’r arddangosfa yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.

https://museum.wales/blog/2154/Chwarelwyr–Quarrymen-/

Pob Hwyl yn America Carwyn!

I weld mwy o waith Carwyn Rhys Jones ac i ddilyn ei daith yn America dilynwch ei dudalen Instagram

https://www.instagram.com/carwynrhysjones/?hl=en