Mae Porthi Dre gydag amserlen lawn yn wythnosol o Glwb yr Ieuenctid ar nosweithiau Mercher, i rannu sgran amseroedd cinio Mawrth ac Iau a sawl gweithgaredd arall trwy’r wythnos. Ond yn newydd i’w amserlen mae Clwb Seiont, ydych chi’n nabod rhywun fuasai’n hoffi mynychu?
Mae croeso cynnes i unrhyw un sy’n dymuno mynychu rhwng 10 a 4 bob dydd Llun. Does dim rhaid i neb fynychu am y sesiwn gyfan ychwaith.
Mewn partneriaeth gyda Gofal Bro a Chyngor Gwynedd mae Porthi Dre yn falch o fedru cyflwyno Clwb Seiont i’w amserlen wythnosol. Cafodd y sesiwn gyntaf ei chynnal ar y 6ed o Dachwedd a chyfle i bawb oedd yn mynychu rhannu syniadau o beth hoffent weld wrth fynd ymlaen, mwynhau cawl llysiau a brechdanau gan Geraint cyn sbwnj a chwstard ac wedyn mwynhau prynhawn yng nghwmni Canolfan Gerdd William Mathias.
Trwy’r dydd roedd sawl un o’r mynychwyr yn nodi enwau ffrindiau a chymdogion buasent yn hoffi iddynt ddod hefo nhw ar gyfer wythnos nesaf – ond mae dal cyfle i unrhyw un gofrestru i fynychu a gwneud hynny trwy gysylltu gydag Anne Evans, Rheolwr Prosiect Porthi Dre ar 01286 675222.
Bydd gweithgareddau’r wythnosau sydd i ddod yn cynnwys gwaith crefft a chelf gyda’r artist Elen Williams, sesiynau yng nghwmni Canolfan Gerdd William Mathias a Dawns i Bawb, sesiynau gydag Anwen o Dementia Actif Gwynedd, sesiynau pontio’r cenedlaethau gydag Ysgol Santes Helen a llawer mwy.
Bydd cinio blasus pob dydd Llun hefyd yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim gan Porthi Dre a rhywbeth melys i’r prynhawn!
Bydd llond gwledd o fwyd a hwyl pob Dydd Llun ym Mhorthi Dre a mae croeso cynnes i bawb! Cofiwch gysylltu gydag Anne os oes diddordeb gennych chi neu rywun rydych yn nabod!