Coron yr holl ffordd o’r Unol Daliaethau

Mae Efa-Hâf Pritchard o Gaernarfon wedi ennill gwobr go arbennig yn ddiweddar

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd

Yn ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen ac wedi ei magu yng Nghaernarfon cafodd Efa-Hâf ei choroni dros y penwythnos gyda’r teitl ‘Junior Miss Galaxy International’ draw yn yr UDA.

Tydi pasiantau ddim yn ddiarth i Efa-Hâf a tydi’r freuddwyd o ddod yn ‘Junior Miss Galaxy International’ ddim ychwaith wrth iddi wylio’r gystadleuaeth yn ôl yn 2017 a hithau ond yn 8 mlwydd oed. Mae Efa-Hâf a’i chwaer, Erin, wedi cystadlu mewn amryw o basiantau ers hynny ac wedi bod yn llwyddiannus sawl gwaith.

Fel rhan o’r gwaith i baratoi ar gyfer pasiant mae Efa-Hâf a’i chwaer yn gwneud llawer iawn o waith elusennol yn yr ardal leol gan gasglu arian a chasglu pecynnau bwyd trwy’r flwyddyn.

Bydd Efa-Hâf yn dychwelyd yn fuan i Gaernarfon gyda’i choron ond nes hynny llongyfarchiadau enfawr i ti ar dy lwyddiant.