Cronfa Caernarfon wedi cyrraedd y targed!

Roedd gan y Gronfa darged i gasglu £30,000 ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yr Haf yma.

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts
Cyfarfod-Cyntaf

Cyfarfod Cyntaf yn ôl yn 2020

Taith-Gerdded-2

Criw’r daith gerdded yn mwynhau peint

swper-pyramid

Swper Pyramid yn cychwyn yn nhy Nici

Taith-Gerdded

Criw’r daith gerdded

igh

Noson yng nghwmni Ian Gwyn Hughes

twrnament

Ysgol Syr Hugh yn bencampwyr y twrnament pêl-droed

Mae Pwyllgor Cronfa Caernarfon yn falch o fod yn gallu cyhoeddi ein bod wedi pasio’r targed i gasglu £30,000 at Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023!

Ers cyfarfod am y tro cyntaf yn Nhafarn yr Alex yn ôl yn 2020 mae’r pwyllgor wedi gweithio’n galed i drefnu amryw o weithgareddau. O gerdded dros 20 milltir o Gaernarfon i Nefyn, i dwrnament pêl-droed i nosweithiau cymdeithasol mae sawl digwyddiad wedi digwydd ar draws Caernarfon. Roedd yn gyfle i gasglu arian ond hefyd i godi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod.

Hoffai’r pwyllgor estyn diolch i bawb sydd wedi cefnogi’r ymgyrch boed hynny trwy fynychu, cefnogi trefnu neu yn ariannol. Mae cymaint ohonoch wedi’n helpu i gyrraedd y nod hwn.

Er bod y gwaith caled o gasglu arian wedi dod i ben mae angen i ni hefyd harddu Caernarfon dros yr wythnosau nesaf. Mae penwythnos swyddogol harddu yn cael ei gynnal ar y 1af ac 2il o Orffennaf felly ewch ati i ddechrau addurno eich tai er mwyn croesawu’r Eisteddfod i’r ardal.

Mae’r Eisteddfod yn annog pobl i beidio defnyddio plastig lle bo’n bosibl wrth addurno.

Os hoffech chi ymuno yn y gwaith o harddu Caernarfon yna cysylltwch gyda ni ar cronfacaernarfon2021@outlook.com!