Mae cyfarfod cyffredinol blynyddol Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei gynnal yn yr Institiwt ar y 4ydd o Fedi am 6:30yh. Mae croeso cynnes i bawb ymuno a buasem wrth ein boddau yn gweld wynebau newydd i’n helpu i baratoi ar gyfer Gŵyl 2024!
Yn flynyddol, mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn trefnu calendr llawn digwyddiadau ar gyfer yr ardal o noson gyri i noson blasu jin a gyda calendr 2023-24 yn cychwyn Ddydd Sadwrn nesaf ar y 9fed o Fedi yn ein digwyddiad Hwyl Dros yr Aber. Rydym wrthi yn trefnu digwyddiad tebyg i ‘Oktoberfest’ at fis Hydref, a’r ffair Nadolig flynyddol fis Tachwedd.
Ond rydym yn agored i syniadau newydd – oes gennych chi syniadau?
Bydd digwyddiad misol trwy’r flwyddyn gyda uchafbwynt y flwyddyn yn flynyddol yn Ŵyl Fwyd ar hyd canol tref Caernarfon ym mis Mai.
Mae trefnu’r holl ddigwyddiadau a’r ŵyl ei hun yn dipyn o waith ac o’r herwydd mi fuasai’n braf cael mwy o unigolion i’n helpu gyda’r trefniadau a’r gwahanol waith sydd ynghlwm â threfnu’r Ŵyl.
Dewch draw i’r cyfarfod nos fory yn yr Institiwt am 6:30yh i’n cyfarfod cyffredinol a cofiwch ddod i ymuno yn yr hwyl yn Hwyl Dros yr Aber Ddydd Sadwrn!