CYFLE OLAF: Loompah Noson!

Mae Oktoberfest yn dod i Dre!

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae amser yn mynd yn brin i gael gafael ar docyn ar gyfer ‘bierkeller‘ arbennig yn Dre!

Ddydd Sadwrn (ar ôl gêm Cymru!) bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cynnal ei gŵyl gwrw Almaenig draddodiadol ei hun.

Mae’r noson yn cynnwys cerddoriaeth Gymraeg gyda naws bandiau Oompah’r Almaen gan Mei Gwynedd a Band Tŷ Potas, bwyd Almaenig gan Neuadd y Farchnad, a digonedd o gwrw lleol gan Fragdy Lleu, Bragdy Cybi, a Bragdy Mona.

Mae tocynnau’n brin, ond yn dal ar gael am £15 o Palas Print neu o fan hyn.