Cyfrol newydd gan Ifor

Mae’r gyfrol yn bererindod drwy’r Rhyfel Mawr

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Ifor ap Glyn, y prifardd coronog a’r cyn-Fardd Cenedlaethol o Gaernarfon yn rhyddhau cyfrol newydd, ond nid o’i gerddi ei hun y tro hwn.

Mae Anwyl Fam’ – Pererindod drwy’r Rhyfel Mawr yn gasgliad o lythyrau rhyfel bachgen o Lanio, Ceredigion, ac mae Ifor wedi ymweld â phob un o’r mannau lle bu’r milwr ifanc wrth geisio ail-greu ei deithiau olaf a deall ei hanes yn well.

Bu farw Capten Dafydd Jones yng Nghoed Mametz yn 1916, ond cadwodd Margaret Jones ei fam bob un o’i lythyrau, hyd ddiwedd ei hoes. Mae’n gasgliad unigryw sy’n disgrifio’r broses o’i hyfforddi fel milwr yng Nghymru a Lloegr, cyn troi at realiti’r ymladd yn Ffrainc. Ni chafodd Margaret gyfle i weld y llefydd a ddisgrifiwyd mor fyw gan Dafydd yn ei lythyrau – ond mae’r gyfrol hon yn bererindod ar ei rhan.

Mae’n cyfuno darnau mwya difyr a dadlennol llythyrau Dafydd hefo myfyrdodau Ifor am effaith y Rhyfel Mawr ar Gymru hyd heddiw.

Mae’r gyfrol ar werth yn nwy siop lyfrau Gymraeg Caernarfon rŵan!