Cynllun arloesol newydd yng Ngwynedd

Mae Rhannu Cartref Gwynedd yn gynllun sy’n mynd i’r afael â sawl her o fewn cymdeithas

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts

Mae’n debyg eich bod yn gyfarwydd iawn ag effeithiau dwy her ddifrifol sy’n wynebu nifer gynyddol o bobl yng nghymunedau Gwynedd ar hyn o bryd. Ar yr un llaw, mae pobl sydd efallai efo problemau iechyd neu symudedd sy’n ei gwneud yn anodd iddynt fyw’n annibynnol a chodi allan; ac ar y llaw arall, mae rheini sy’n ei chael yn anodd cael cartref fforddiadwy yn eu cymuned eu hunain.

Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio rhaglen Rhannu Cartref Gwynedd, gyda’r bwriad o fynd i’r afael â’r ddwy broblem ddyrys hon.

Mae Rhannu Cartref Gwynedd yn helpu pobl i gefnogi’i gilydd o dan yr un to. Mae rhywun sydd ag ystafell sbâr a sy’n chwilio am gwmni a rhywfaint o help ymarferol o gwmpas y tŷ – er enghraifft ychydig o help gyda siopa, coginio, llwytho’r peiriant golchi, neu hyd yn oed fynd â’r ci am dro – yn rhannu eu cartref gyda rhywun sy’n chwilio am lety fforddiadwy.

Yn bwysicach na dim, mae Rhannu Cartref yn cynnig cwmni, cefnogaeth a chyfeillgarwch i’r ddau unigolyn.

Ni fyddai rhent yn cael ei godi ond bydd ffi fechan yn daliadwy gan y naill a’r llall er mwyn gweinyddu’r cynllun. Mae diogelwch yn holl bwysig i’r cynllun hwn a bydd y Cyngor yn dilyn proses drylwyr wrth baru’n ofalus.

Tybed a oes gennych chi ddiddordeb yn y cynllun hwn? Neu’n nabod unrhyw un allai elwa ohono?

Mae mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/RhannuCartref.

I holi am wybodaeth codwch y ffôn neu anfonwch neges draw i Richard ein cydlynydd ar 07388 859015 / rhannucartref@gwynedd.llyw.cymru