Mae cystadleuaeth cyri Gŵyl Fwyd yn ôl!

Ydych chi’n giamstar ar gyri? Yn gwybod yn union faint o sbeis sydd yn plesio? Ewch amdani!

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts
Cyst-Cyri-2023-Clawr

Cystadleuaeth Cyri 2023!

CystCyri2020

Pawb yn mwynhau!

CystCyri20200

Rhai o’r pwyllgor yn brysur yn y gegin yn 2020

Mae’r gystadleuaeth gyri yn ôl ac rydym yn galw ar gogyddion Caernarfon! Oes gennych chi eich hoff rysáit cyri? Neu a ydy pawb yn gofyn am ail batiad ar ôl mwynhau eich cyri? Dewch i gystadlu i weld os ydy gweddill trigolion Caernarfon yn gytûn! Ai chi fydd cawr y cyri yn 2023?

Ar ôl tair blynedd o fethu cynnal y gystadleuaeth boblogaidd mae’n braf gallu edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl i Feed My Lambs ar nos Wener y 31ain o Fawrth am 7:3yh! 

Does dim angen bod yn gogydd proffesiynol i gystadlu a bydd gwobr o £50 a ffedog yr Ŵyl i’r enillydd! Dilynwch y linc isod i gofrestru!

Ydw i’n gallu dod os nad ydw i am gystadlu?

Wrth gwrs! Cewch fod yn feirniad am y noson! Mae tocynnau ar werth trwy ddilyn y linc isod! Cofiwch ddod a diodydd eich hun!

Cofrestru a Thocyn YMA