Mwy o ddefnydd o Segontiwm 

Mae Cadw yn awyddus i wneud defnydd gwell o safle gwych Segontiwm

gan Elliw Llŷr
image

Dewi Jones, Ann Hopcyn, Maria Samacki o Gyngor Tref a Huw Gwilym ac David Rees o Cadw

Bu i gynrychiolwyr Cyngor Tref gyfarfod hefo Swyddogion Cadw wythnos yma yn Amgueddfa Segontiwm i drafod hyn.

Mae dros 200,000 o ymwelwyr yn mynd i’r Castell yn flynyddol gyda nifer fechan yn gwneud ei ffordd i fyny’r allt. Mae Segontiwm yn le prysur drwy’r flwyddyn gyda nifer o ysgolion lleol yn mynd yna a byddai cael adnodd mwy rhyngweithiol o fudd i bawb.

Gwir yw dweud bod Segontiwm wedi cael sylw yn ddiweddar am ‘night hawking’ a thystiolaeth bod hynny yn parhau. Da yw gwybod fod Cadw yn bwriadu agor yr Amgueddfa mis Medi.

Dywedodd  Cynghorydd Dewi Jones ’mae Segontiwm yn safle pwysig sydd hefo llawer o botensial, ond ar hyn o bryd tydi hynny ddim yn cael ei wireddu’ Y bwriad yw sefydlu grŵp cyswllt i gyfarfod bob chwarter er mwyn trafod datblygiadau yn y Dref ac i annog cyswllt gyda’r Amgueddfa.