Yr Ŵyl Fwyd yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Dathlu ein gwirfoddolwyr benywaidd

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
Picture-1

Nici Beech (Llun: Gŵyl Fwyd Caernarfon), Eleri Løvgreen (Llun wedi ei rannu gyda chaniatâd Allison, Morrisons Caernarfon), Ann Hopcyn (Llun wedi ei rannu gyda chaniatâd Arwyn Roberts)

Erbyn heddiw, mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn un o wyliau bwyd mwyaf Cymru, ac yn 2022 amcangyfrifiwyd bod 50,000 o bobl wedi mynychu’r digwyddiad.

 

Ac i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, mae’r ŵyl wedi dathlu rhai o’r merched na fyddai’r ŵyl yn bodoli oni bai amdanynt.

 

Eleri Løvgreen yw ysgrifennydd yr ŵyl. Fe’i ganwyd yn Nhrawsfynydd, lle treuliodd ei phlentyndod cynnar, cyn treulio dwy flynedd yng Nglanaman a gweddill ei phlentyndod yng Nghaerdydd. Bu’n athrawes yn Ysgol y Faenol, Bangor cyn mynd yn ei blaen i sefydlu Cymen, cwmni cyfieithu yn nhref Caernarfon ar y cyd â’i ffrind Carolyn Iorwerth. Mae wedi byw yng Nghaernarfon ers 1982, ac mae wedi hel atgofion am gyfnod cychwyn Gŵyl Fwyd Caernarfon.

 

“Syniad Ann Hopcyn oedd yr Ŵyl Fwyd yn wreiddiol. Roedd hi wedi gweld cyflwyniad gan un o wirfoddolwyr Gŵyl Fwyd Casnewydd, ac mi wnaeth ei wahodd i roi cyflwyniad i Gyngor Tref Caernarfon.”

 

Mae Ann Hopcyn yn cynrychioli ward Menai ar Gyngor Tref Caernarfon. Daw’n wreiddiol o Abertridwr ger Caerffili, ond mae hi wedi byw yng Nghaernarfon ers 1985 ac wedi dysgu yn Ysgol yr Hendre yn y dref ac yn Ysgol Gwaun Gynfi gerllaw. Bu’n ddarlithydd ar gwrs hyfforddi athrawon cynradd ym Mhrifysgol Bangor am 24 mlynedd.

 

Mewn digwyddiad yn ymwneud ag adfywio trefi marchnad y cafodd Ann yr ysbrydoliaeth ar gyfer yr ŵyl fwyd. Yn ei geiriau ei hun, “Dyma feddwl, ‘gallai hyn weithio yng Nghaernarfon, mae gennym ni ddigonedd o gynhyrchwyr bwyd yn lleol!’”

 

Bu Eleri Løvgreen hefyd yn cynrychioli ward Menai ar Gyngor Tref Caernarfon hyd at y llynedd. Yn ôl Eleri:

 

“Yn deillio o syniad Ann, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus a fynychwyd gan nifer o bobl, ac yn y cyfarfod hwnnw etholwyr Nici’n gadeirydd.”

 

Mae Nici Beech, Cadeirydd yr Ŵyl hefyd yn gynrychiolydd ar Gyngor Tref Caernarfon. Cafodd ei geni yng Ngallt Melyd, pentref rhwng Prestatyn a Dyserth yn Sir Ddinbych, a’i magu yn Llandrillo-yn-Rhos a Throfarth, Llangernyw. Magwyd Nici ar aelwyd ddi-Gymraeg ond mynychodd ysgolion Cymraeg a datblygodd ddiddordeb byw yn y sin roc Gymraeg. Graddiodd o’r brifysgol gyda gradd yn y gyfraith yn 1992 cyn gweithio yn y diwydiant teledu a dod yn gyfarwyddwr artistig Galeri Caernarfon yn 2017.

 

“Dw i wedi trefnu gigs a gwyliau yn wirfoddol ers fy arddegau. Dwi’n meddwl imi gael fy ethol yn gadeirydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn bennaf oherwydd fy mhrofiad yn trefnu Gŵyl Arall, gŵyl ddiwylliannol a chelfyddydol yng Nghaernarfon.

 

“Mae’r tîm sy’n rhan o’r pwyllgor yn ymroddedig iawn ac yn mwynhau’r gwaith trefnu sy’n digwydd drwy’r flwyddyn. 

 

“Mi gychwynodd pethau gyda chystadleuaeth dylunio logo ar gyfer yr Ŵyl. Lansiwyd yr ŵyl mewn gwirionedd flwyddyn cyn ei chynnal yn gyntaf, mewn digwyddiad bach i wobrwyo enillydd y gystadleuaeth logo.

 

“Cafwyd adloniant gan Gwibdaith Heb Frân, ac roeddan ni wedi gosod naws yr ŵyl fel un Gymraeg, lleol ac agos-atoch. 

 

“Ychydig a wyddem bryd hynny y byddai’r ŵyl gyntaf, gyda 50 o stondinau a 1,000 o ymwelwyr yn tyfu i fod y maint y mae hi rŵan, ac er ein bod ni wedi dysgu lot fawr ers hynny, ’dwi’n falch bod y naws, a’r brwdfrydedd i gydweithio wrth drefnu yn parhau.”

 

Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn cael ei harwain gan ferched y dref, ac mae Eleri Lövgreen yn enwi Buddug, brenhines yr hen lwyth Iceni, a arweiniodd wrthryfel yn erbyn lluoedd yr Ymerodraeth Rufeinig fel eilun iddi. Mae Nici yn cyfeirio at Non Parry, o’r grŵp Cymraeg Eden fel ei harwres, a hynny am rannu ei diagnosis o awtistiaeth yn ddiweddar.

 

Cynhelir Gŵyl Fwyd Caernarfon ddydd Sadwrn 13 Mai 2023, ac mae’r ŵyl eisoes yn galw am wirfoddolwyr i helpu ar y diwrnod.

 

Ond tybed beth yw hoff bryd Nici, Ann ac Eleri?

 

“Pâté bras, lamb chops a cauliflower cheese, a sticky toffee i bwdin! A môr o win coch neu wyn, neu beintiau o lager, dim ots!”

 

“Ar hyn o bryd, salad pasta gyda phys a pesto” meddai Ann.

 

Mae dewis Nici fymryn yn symlach…

 

“Ramen.”