gan
Elliw Llŷr
Roedd haul tanbaid dydd Sadwrn yn coroni diwedd yr Haf i bobl Caernarfon gyda degau yn tyrru dros y bont i fwynhau pnawn hamddenol o fandiau lleol, gemau a chastell bownsio, sêl cist car, bwyd a diod lleol.
Dywedodd Cynghorydd Caí Larsen ‘llongyfarchiadau i griw gwych Gŵyl Fwyd Caernarfon ac am sicrhau tywydd da ar gyfer y digwyddiad- mae ganddynt allu anhygoel i wneud hynny!’
Disgrifiodd un o’r trefnwyr, Nici Beech, ’diwrnod gwych’ gan ddiolch am y gwaith caled ac am y gefnogaeth.
Mae trefniadau ar waith i drefnu Loompah Noson yn Neuadd y Farchnad ar 15 Hydref a Marchnad Nadolig gan ddefnyddio gofod yn Yr Orsaf a’r Hen Lys fydd yn cael ei gynnal yr un diwrnod â Marchnad Nadolig Galeri ar 18 Tachwedd.