Cynhaliwyd y Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau gan Hyfforddiant Cambrian yng Ngwesty’r Metropole yn Llandrindod yr wythnos yma.
Mae’r gwobrau blynyddol yn gyfle i ddathlu cyflogwyr a phrentisiaid o bob rhan o Gymru sydd wedi rhagori mewn prentisiaethau sydd wedi eu darparu gan gwmni Hyfforddiant Cambrian.
A ’leni, daeth siop feics Caernarfon, Beics Antur yn fuddugol mewn 3 chategori.
Mae Beics Antur yn rhan o gwmni ehangach Antur Waunfawr, menter gymdeithasol sy’n darparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a llesiant i oedolion ag anableddau dysgu.
Mae’r siop wedi’i lleoli ym Mhorth yr Aur, mewn adeilad sydd wedi’i ddatblygu’n ganolfan iechyd a lles, gyda siop llogi a thrwsio beiciau, ystafell ar gyfer gweithgareddau iechyd a lles, ac ystafell synhwyraidd, mewn prosiect gwerth £1 miliwn.
Mae’r siop yn cynnig dewis eang o feiciau i ferched, dynion a phlant i’w gwerthu a’u llogi, ac mae fflyd o feiciau addasiedig i’w llogi hefyd, sy’n addas ar gyfer unigolion o bob gallu.
Ac yn y gwobrau a gynhaliwyd yn Llandrindod, daeth y siop feics i’r brig mewn 3 chategori.
Mae Jack Williams yn fecanic yn Beics Antur, a fo oedd enillydd y categori Prentis Iaith Gymraeg y Flwyddyn. Llwyddodd Jack hefyd i hawlio’r wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2.
Ac yn goron ar y cyfan, cipiodd Antur Waunfawr eu hunain y wobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn.