Sesiynau Ffrindiau Dementia

Eisiau cyfle i ddysgu mwy am ddementia? Mae sesiynau Ffrindiau Dementia ar gael i grwpiau cymunedol

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts
Ffrindiau Dementia

Mae pob un ohonom unai yn ’nabod rhywun sy’n byw gyda dementia, neu’n ’nabod rhywun sy’n ’nabod rhywun. Mae Cyngor Gwynedd yn anelu i wneud mwy o Ffrindiau Dementia yn 2023 a hynny er mwyn codi ymwybyddiaeth a chwalu’r stigma.

Mae rhai o staff y Cyngor yn cynnig y sesiynau i grwpiau cymunedol, gweithleoedd ac i unrhyw un sydd efo diddordeb.

Mae’r sesiwn ei hun yn un sydd wedi cael ei darparu gan Y Gymdeithas Alzheirmers ac yn para oddeutu awr o hyd.

Os ydych chi fel grŵp cymunedol neu yn weithlu sy’n gwasanaethu’r cyhoedd yng Ngwynedd eisiau clywed mwy cysylltwch gyda Mirain ar mirainllwydroberts@gwynedd.llyw.cymru