Ar y 9fed o Fedi mae Pwyllgor Gŵyl Fwyd Caernarfon yn brysur drefnu digwyddiad newydd sbon ar gyfer trigolion Caernarfon… gan bobl Caernarfon.
Diwrnod hwyliog lleol ym Mharc Coed Helen, Caernarfon yw Hwyl Dros yr Aber. Diwrnod wedi ei drefnu gan bobl Caernarfon, yn llawn bwyd, diod a chynnyrch gan bobl Caernarfon, yn cynnwys cerddoriaeth gan bobl Caernarfon… ac ie, ar gyfer pobl Caernarfon!
Mae’r diwrnod yn gyfle i ffarwelio gyda’r haf ond hefyd yn gyfle i ni gyd ddathlu’r hyn sydd gennym o fewn ein milltir sgwâr a chyfle i ni fel pwyllgor Gŵyl Fwyd Caernarfon ddiolch i chi gyd hefyd am y gefnogaeth flynyddol ym Mis Mai.
Bydd y diwrnod yn cychwyn am 12 a bydd stondinau bwyd ar eich cyfer yn cynnwys Barbeciw Mŵg, Big Dog Pizza a Beic Melys. Bydd stondinau diod yn cynnwys Swig Smoothies, Coffi Dre, Bragdy Lleu a seidr gan Antur Waunfawr.
Bydd modd i chi fwynhau’r holl stondinau bwyd, diod a chynnyrch, yr adloniant a’r gweithgareddau nes 7yh. Bydd castell bownsio, stondin peintio wynebau a llwyth o bethau eraill hefyd ar gael yn ystod y dydd.
Mae hefyd cyfle i chi roi cais am stondin “car boot” os ydi o ddiddordeb i chi, os oes llenwch y daflen yma: https://forms.gle/EFAL5TcTSRZweKGG8
Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar ein digwyddiad Facebook fan hyn: https://fb.me/e/KKPHoe2z