Hurio beics am hanner pris!

Rhwng 20 a 31 Mawrth 2023

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

I ddathlu’r her Stroliwch a Roliwch eleni, mae siop feics yn Dre yn cynnig hurio beic am hanner pris i blant ysgol.

Her sy’n cael ei threfnu gan Sustrans, elusen teithio cynaliadwy yw Stroliwch a Roliwch, ac eleni mae’n cael ei chynnal rhwng 20 a 31 Mawrth 2023.

Fe’i sefydlwyd i annog disgyblion i deithio i’r ysgol mewn ffordd fwy iachus sy’n gwella ansawdd yr aer yn eu bröydd.

Yn ôl ystadegau gan Sustrans, yn 2022 llwyddwyd i osgoi 1,335 tunnell o CO2 o ganlyniad i’r her.

I nodi’r wythnos, mae Beics Antur, siop llogi beiciau yng Nghaernarfon yn cynnig llogi beic am hanner pris i blant ysgol o bob oed.

Yn ddiweddar datblygwyd safle Beics Antur ym Mhorth yr Aur yn ganolfan iechyd a llesiant, gyda siop llogi beiciau, stafell sydd ar gael i’w llogi ar gyfer gweithgareddau iechyd a llesiant, ac ystafell synhwyraidd, mewn a prosiect gwerth £1 miliwn.

Mae’r busnes yn rhan o Antur Waunfawr, menter gymdeithasol ehangach sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a lles i oedolion ag anawsterau dysgu.

Yn ôl llefarydd:

“Mae cael plant ar gefn beic o oedran ifanc yn bwysig.

“Mae’n eu helpu i ddatblygu’n gorfforol, wrth weithio ar eu cyhyrau cardiofasgiwlar, eu hysgyfaint a’u calonnau.

“Mae hefyd yn gwella sgiliau bywyd pwysig fel cydsymud a chydbwysedd.

“Gall beicio roi hwb i hyder plant hefyd, yn ogystal â meithrin synnwyr o annibyniaeth.

“Mae’r her yn gyfle i ddathlu holl fanteision beicio, ac rydan ni’n edrych ymlaen at chwarae ein rhan drwy gynnig llogi beiciau am hanner pris i blant ysgol o bob oed.”

Mae siop llogi, gwerthu a thrwsio Beics Antur wedi’i lleoli ym Mhorth-yr-Aur, Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RN a gallwch gysylltu â’r siop ar beics@anturwaunfawr.cymru neu 01286 672622.