Jinsan fach i gadw’n iach?

Dewch draw i’r Orsaf!

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Emyr Gibson yn adnabyddus fel actor a chanwr, ac mae wedi ymddangos mewn sawl rhaglen ddrama boblogaidd ar S4C, gan gynnwys chwarae rhan Meical yn y gyfres Rownd a Rownd.

Ond mae Emyr hefyd yn gydberchennog ar gwmni jin Afallon Môn, ac mewn digwyddiad arbennig yng Nghaernarfon bydd yn trafod hanes sefydlu’r cwmni.

Fe wnaed rysait jin Afallon gan y distyllwr uchel ei barch Gerard Evans, gan ddefnyddio dŵr o ffynnon 200 oed sydd wedi’i lleoli yn nistyllfa’r cwmni ar Ffarm Bedo ger Llanfachraeth.

Er bod Emyr yn un o hogia Llanbabs (neu Ddeiniolen!) yn wreiddiol, mae’n byw yng Nghaernarfon bellach, ac ymhen llai nag wythnos bydd yn rhoi blas i bobol Caernarfon ar ei fywyd newydd fel connoisseur jin!

A gydol y nos bydd cyfle i flasu nifer o jins lleol, da, mewn digwyddiad arbennig i godi arian ar gyfer Gŵyl Fwyd Caernarfon.

Mae tocynnau yn £10 ac ar gael drwy ddilyn y ddolen hon, neu drwy ymweld â siop lyfrau Palas Print.