Cân a Sgwrs : Cleif Harpwood a Geraint Cynan

Dewch i wrando ar sgwrs ddifyr rhwng Cleif Harpwood a Geraint Cynan a mwynhau cerddoriaeth fyw

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts

Ydych chi’n chwilio am noson ddifyr ar gyfer nos Wener yn Chwefror? Dewch draw i’r Galeri i fwynhau sgwrs a cherddoriaeth yng nghwmni Cleif Harpwood, Geraint Cynan ac Alis Glyn. Bydd y noson yn cael ei chynnal ar y 10fed o Chwefror ac yn cychwyn am 7:30yh. 

Bydd y noson yn cynnwys Cleif Harpwood, cyn brif leisydd Ac Eraill ac Edward H Dafis, yn siarad ychydig am hanesion sy’n ymwneud â’i ganeuon a’i fywyd ac yn cyd-fynd yn amserol â’r hunangofiant a gafodd ei lansio yn ôl yn Rhagfyr. Bydd hefyd yn rhannu caneuon i gyfeiliant Geraint Cynan, cyn aelod o Bwchadanas a sy’n gerddor llawn amser.

Byddwn hefyd yn cael ein diddanu gan lais newydd lleol, Alis Glyn. Bydd Alis yn canu ei chaneuon ei hun. Tydi llwyfan y Galeri ddim yn anghyfarwydd i Alis a chyn y Nadolig roedd yn perfformio fel un o brif gymeriadau sioe Hersprê Ysgol Syr Hugh Owen.

Mae modd prynu tocyn trwy wefan Galeri – Cân a sgwrs: Cleif Harpwood a Geraint Cynan (galericaernarfon.com)

Bydd elw’r noson yn mynd tuag at Gronfa Caernarfon at Gronfa Llŷn ac Eifionydd 2023, os am ddilyn gweddill yr ymgyrch gallwch weld beth sydd ymlaen fan hyn – Cronfa Caernarfon Eisteddfod 2023 | Facebook