2 dîm o Dre ar y Talwrn!

Dewch i fwynhau noson o farddoniaeth yr wythnos nesaf

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Bydd pobol Dre yn ’nabod Talwrn y Beirdd fel rhaglen radio a chystadleuaeth barddoni ar BBC Radio Cymru, a bydd dwy ornest nesaf y rhaglen yn cael eu recordio yng Nghaernarfon!

Ym mhob pennod o’r Talwrn mae dau dîm o feirdd yn cystadlu i geisio cyrraedd y rownd derfynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a’r wythnos nesaf bydd dau rifyn yn cael eu recordio yng Nghlwb Hwylio Caernarfon.

Y ddau dîm cyntaf i fynd benben â’i gilydd yw’r tîm sy’n benthyg ei enw o un o lefydd mwyaf eiconig dre, sef Dros yr Aber (dim ond gobeithio y bydd y bont heb ei chau!) Bydd y tîm, sy’n cynnwys Rhys Iorwerth, Iwan Rhys a Marged Tudur o Gaernarfon yn wynebu Bro Alaw, tîm o Fôn (gan obeithio y bydd y bont honno heb ei chau, hefyd!)

Yn yr ail ornest bydd Dwy Ochr i’r Bont, tîm o feirdd o Arfon a Môn yn wynebu’r Llewod Cochion o Faldwyn.

Mae gwahoddiad agored i unrhyw un i’r noson, a fydd yn dechrau’n brydlon am 7PM nos Fawrth Ebrill 11.