O Twthill i Tahiti

Llyfr newydd yn bwrw goleuni ar yr hanes

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
Untitled-design-2023-15T155216

Ynys Rapa, Tahiti a Twthill, Caernarfon

Mae ’na rai’n sôn bod Twthill fel ynys fach o fewn Caernarfon, ond pwy wyddai fod na gysylltiad rhwng ein cornel fach ni o Gaernarfon ac ynys Tahiti?

 

Mae’r stori am gysylltiad Caernarfon ag ynys Rapa yn Tahiti yn cael ei hadrodd yn y gyfrol newydd RAPA Anturiaethau Cymro Ifanc ym Moroedd y De gan Alwyn Harding Jones. Er bod Alwyn yn byw yn Ffynnon Taf, Caerdydd ers dros ddeugain mlynedd bellach, mae’n dal yn falch o’i wreiddiau fel Cofi.

Rapa yw’r ynys fwyaf anghysbell yn y byd, wedi’i lleoli 621 milltir o Tahiti ym Môr y De. Does fawr ddim ymwelwyr yn mynd yno hyd yn oed heddiw. Ond yn 1918, glaniodd criw’r llong Inverness ar Rapa mewn dau fad achub ar ôl i’r llong fynd ar dân a suddo 670 milltir i’r de-orllewin o’r ynys. Roedd y criw wedi hwylio am saith diwrnod a saith noson i gyrraedd Rapa a’i harbwr diogel, heb ddim lloches rhag yr elfennau na fawr o fwyd a diod i’w cynnal.

Ymysg y 24 dyn roedd sawl Cymro: dau o’r rheiny oedd y Capten, John Hughes, Twthill, a Thomas Harding Jones, oedd hefyd o Gaernarfon. Cofnododd Capten Hughes bob cam o fordaith yr Inverness, o’r diwrnod pan hwyliodd o borthladd Caerdydd ym mis Mawrth 1917 i’r diwrnod y daeth ei gyfrifoldeb am y criw i ben yn Seland Newydd yng Ngorffennaf 1918.

Gwnaeth Tommy Harding, y llongwr ifanc a thaid Alwyn, gopi yn ei lawysgrifen ei hun o ddyddiadur Capten Hughes, ac mae’r llyfr bach hwnnw erbyn hyn ym meddiant ei ŵyr, Alwyn Harding Jones. Y llyfr hwn, ynghyd â straeon ei daid, ydi sail y gyfrol ddifyr hon am antur na fu ei thebyg erioed.

Yn ôl Alwyn:

“Roedd gan Taid Rapa dros ugain o wyrion ac wyresau, a fi fu’n ddigon ffodus i etifeddu’r dyddlyfr oedd yn adrodd hanes colli’r Inverness a bywyd ar ynys Rapa.

“Er mai fi ydi ceidwad y llyfr, mae stori Taid yn perthyn i bob un ohonom. Mae gen i gyfrifoldeb i sicrhau fod y stori’n cael ei chadw’n fyw i’r cenedlaethau sydd i ddod – a phan ges i fy ysgogi gan ffrind i sgwennu llyfr ar ôl ymddeol, dyna be wnes i. Stori am bobol go iawn ydi hon, hefo chydig bach o ddychymyg, a hwnnw bob amser wedi’i seilio ar ffaith.”

Er ei fod wedi dod yn gyfarwydd iawn â hanes Rapa, tydi Alwyn ddim wedi ymweld â’r ynys y mae hi’n cymryd pum niwrnod i’w chyrraedd.

“Mae rhywbeth arallfydol am ynys Rapa. Mae pob un sydd â chysylltiad â’r lle – boed wedi eu magu yno neu wedi ymweld â’r ynys, neu fel fi wedi ymchwilio i’w hanes – yn dod dan ei swyn yn syth, ac yn dod yn rhan o’r ‘Rapa Connection‘ fel y’i gelwir gan un o frodorion cyfoes Rapa. Dwi wedi cael gwahoddiad i fynd yno ac mi fyswn i wrth fy modd yn mynd… un diwrnod, falle.”

Mae Rapa: Atgofion Cymro Ifanc ym Moroedd y De ar gael mewn siopau llyfrau ledled Cymru.