Urddo Alun Gelli!

Mae enw cyfarwydd ar restr yr anrhydeddau

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
324248682_518910823554193

Alun Gelli’n dathlu ei ben-blwydd yn 80 yn ddiweddar

Heddiw cyhoeddwyd enwau’r rhai fydd yn cael eu derbyn i Orsedd Cymru drwy anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Mae’r enwau ar y rhestr yn cael eu hanrhydeddu am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol, ac ymhlith y rhai fydd yn cael eu hurddo ym Moduan fis Awst fydd Alun Gelli.

Bydd nifer yn adnabod Alun fel Cyn-Brifathro Ysgol y Gelli, Caernarfon rhwng 1984 a 1997.

Cafodd Alun ei addysg yn Ysgol Gynradd Dolbadarn ac Ysgol Ramadeg Llandysul, ond bellach mae’n un o hoelion wyth tre’r Cofis, a’i waith yng Nghaernarfon sydd i gyfrif am ei enwebiad i’r Orsedd.

Bydd pobol leol yn gwybod fod Alun yn wirfoddolwr ffyddlon ym Manc Bwyd Arfon, yn ogystal â bod yn brysur ar randiroedd cymunedol y dref yn darparu bwyd ffres i bobol leol sy’n cael trafferth dal dau ben llinyn ynghyd. Yn wir, golygodd ei waith gyda bwyd iddo gyrraedd rhestr fer y BBC Food Awards 2022.

Mae Alun hefyd yn driw iawn ei gefnogaeth i brosiect Porthi Dre, menter sy’n dosbarthu bwyd dros ben o archfarchnadoedd i bobl yn y dref. Yn ystod y pandemig, gydag Alun ymhlith y gwirfoddolwyr, bu’r prosiect yn gyfrifol am rannu 23,000 o brydau bwyd poeth yn lleol.

O dan ymbarél Porthi Dre, anfonwyd lori yn llawn nwyddau angenrheidiol i Dwrci yn sgil daeargryn Chwefror 2023. Roedd Alun ymhlith y gwirfoddolwyr hyn hefyd, wrth gwrs.

Mae’n joban anodd crynhoi holl waith gwirfoddol Alun, ond mae’n werth crybwyll ei waith ym Mynwent Eglwys Llanbeblig, a gyda Sioe Amaethyddol Caernarfon, Papur Dre, ac fel Cynghorydd Tref Caernarfon.

Ond i nifer, un o weithredoedd mwyaf arwyddocaol Alun oedd cynnig cefnogaeth ymarferol i streicwyr Friction Dynamics yn un o anghydfodau diwydiannol hiraf y Deyrnas Unedig, 2001-2003. Wedi hynny, roedd Alun hefyd yn aelod o’r grŵp fu’n gyfrifol am sicrhau plac i goffau’r streic ar Faes Caernarfon.

Mae’n briodol iawn mai mewn Eisteddfod mae Alun yn derbyn cydnabyddiaeth am ei waith diflino’n lleol, a hynny am iddo fod yn Ysgrifennydd pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Bro Dwyfor, 1982, yn Is-gadeirydd pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Dyffryn Nantlle, 1990 ac yn Ysgrifennydd Pwyllgor Apêl Caernarfon, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri, 2005.

Ond bydd darllenwyr Caernarfon360 yn falch o glywed fod gan Alun amser i hamddena! Mae’n aelod o Glwb Mynydda Cymru, ac yn y gorffennol mae wedi bod yn gapten tîm rygbi Coleg Normal ac yn gapten tîm rygbi Rhuthun.

Llongyfarchiadau Alun!