Ynni o’r haul i Llety Arall

Mae grant gan y Loteri Genedlaethol wedi galluogi’r fenter gymunedol i stori’r ynni o’u paneli solar

Llety Arall
gan Llety Arall

Mae Llety Arall yn adnabyddus am ei egwyddorion amgylcheddol gyfeillgar, a bellach mae ganddynt batris i stori ynni haul a gynhyrchir gan baneli solar ar y to.

Derbyniodd Llety Arall grant gan y Loteri Genedlaethol i brynu’r batris fel eu bod yn gallu defnyddio’r ynni sy’n cael ei greu gan y paneli solar bob ochr i’r to, yn ogystal â gwerthu unrhyw ynni sbâr i’r Grid Cenedlaethol fel maen nhw wedi ei wneud ers 2019.

Dywedodd Dewi Rowlands, Cadeirydd Is-bwyllgor Adeilad Llety Arall:

‘Mae’r batri yn ein galluogi i storio’r ynni a greir gan y paneli solar a’i ddefnyddio i oleuo a chynhesu’r adeilad. Bydd unrhyw ynni sbar yn cael ei drosglwyddo i’r Grid Cenedlaethol a thrwy hynny creu incwm i’w fusoddi’n ôl yn y fenter.

‘Diolch i Gareth o Anglesey Solar am osod a chysylltu pob dim mor broffesiynol a sydyn i ni!’

Eisoes mae gan Llety Arall baneli solar ar do dau ochr yr adeilad, ac wrth adnewyddu’r adeilad ailddefnyddwyd deunyddiau oedd yn yr adeilad yn barod neu deunyddiau i’w ailddefnyddio.

Mae gweithredu mewn ffordd amgylcheddol gyfeillgar mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd yn un o egwyddorion craidd Llety Arall, ac yn cyd-fynd ag un brif Egwyddorion Economi Ymweld Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri a gyhoeddwyd ym Medi 2023. Mae Llety Arall hefyd yn gwneud pob ymdrech i ddefnyddio cynhyrchwyr a chyflenwyr lleol er mwyn cefnogi’r economi gylchol leol, ynghyd ag annog ymwelwyr i wneud dewisiadau gwyrdd wrth deithio i Gaernarfon.

Ychwanegodd Dewi Rowlands:

‘Mae gallu gwneud hyn yn gam mawr at fod yn fwy gynaliadwy – yn amgylcheddol ac yn ariannol. Felly, diolch yn fawr eto i’r Loteri Genedlaethol am weld y potensial!’

I ddathlu, mae Llety Arall yn cynnig cod gostyngiad i westeion sy’n aros o Hydref 16 tan ddiwedd Tachwedd. Hefyd, mae diwrnod gwirfoddoli ar y gweill ar yr 11eg o Dachwedd rhwng 10yb a 2yp:

Meddai Dani Schlick, Ysgrifennydd y Fenter:

‘Byddwn ni’n uwch gylchu deunydd ar gyfer ein llofftydd a Lle Arall, yn paentio waliau ac yn clirio. Byddai’n wych cael eich cefnogaeth. Mae hyd yn oed awran fach o’ch amser yn help mawr. Dewch i fod yn rhan o gymuned Llety Arall!