Jac a’r Angel

Mae siop lyfrau Palas Print yn brysur yn paratoi ar gyfer y Nadolig!

gan Carys Bowen
Clawr-Lolfa-Jac-Angel-Daf

Mae siop lyfrau Palas Print yn brysur yn paratoi ar gyfer y Nadolig!

Er mwyn ein cael ni i hwyl y tymor, ar ddydd Sadwrn 23ain o Dachwedd, bydd y siop yn cynnal gweithdy creadigol ar gyfer plant a theuluoedd yn seiliedig ar y nofel Nadoligaidd hwyliog, Jac a’r Angel gyda’r awdur Daf James am 11 o’r gloch yn Lle Arall ar Stryd y Plas.

Mae Daf James yn un o ddramodwyr, sgriptwyr ac awduron amlycaf Cymru. Daf yw awdur y dramâu arloesol Llwyth a Tylwyth. Darlledwyd ei gyfres ddrama lwyddiannus, Lost Boys & Fairies ar BBC1 yn ddiweddar.

Jac a’r Angel yw nofel gyntaf Daf James ac mae wedi derbyn canmoliaeth uchel amdani gan ennill y categori Plant a Phobl Ifanc yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2024 a’r categori cynradd yng Nghwobrau Tir na n-Og sy’n dathlu llenyddiaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Dyma stori ddoniol, annwyl a theimladwy sy’n berffaith i’w ddarllen fel teulu dros gyfnod yr Adfent. Mae Jac yn byw ym mhentref bach Bethlehem gyda’i Dad-cu, ond mae’r Nadolig wedi ei ganslo ar yr aelwyd eleni. Felly pan ffrwydra angel allan o galendr adfent ei fam, a chynnig dymuniad iddo, mae’n edrych fel petai’r rhod yn troi.

Bydd oedolion a phlant yn gallu mwynhau stori ‘dod i oed’ y bachgen diniwed sy’n defnyddio ei ddychymyg i oresgyn galar a grymoedd tywyll bywyd.

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw i groesawu Daf James i Gaernarfon,” meddai Eirian, perchennog Palas Print, “dyma gyfle i ni gychwyn y paratoi ar gyfer tymor y Nadolig yn y siop felly ymunwch a ni am weithdy creadigol Nadoligaidd i’r teulu cyfan. Bydd gennym fwrdd celf ac artist yn bresennol diolch i gydweithio gyda phrosiect CARN a bydd cyfle i greu addurn Nadolig eich hun yn ogystal a chlywed yr awdur yn siarad am ei lyfr a darllen ohono.”

“Mae’r nofel wedi ein hysbrydoli i greu caledr adfent arbennig i ffenest siop Palas Print eleni a byddwn yn cydweithio gydag ysgolion lleol i greu’r calendr.”

Felly, os ydych chi eisiau cyfle i gyfarfod Daf James, clywed ychydig o stori Jac a’r Angel, cael eich ysbrydoli i ysgrifennu’n greadigol a chreu addurniadau Nadolig, yna dewch draw i Lle Arall ar Ddydd Sadwrn 23ain o Dachwedd rhwng 1100am – 1230pm.

Bydd angen i chi archebu lle ymlaen llaw drwy gysylltu gyda’r siop ar 01286 674631 neu ebostio carys@palasprint.com. Pris tocyn yw £3 y plentyn neu £8 yn cynnwys copi o’r llyfr.

Mae croeso cynnes i bawb. Diolch i Gronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru a Hwb Caernarfon am gyfrannu tuag at ariannu’r digwyddiad.

Dweud eich dweud