Cadwyn Gyfrinachau Mis Mai

Ceurwyn Humphreys, neu Ceurwyn Coffi Dre i sawl un ohonom!

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd

Enw: Ceurwyn Humphreys

Gwaith: Perchenog Coffi Dre a Peiriannydd Gweithrediadau yn BBC Cymru

Beth yw dy gysylltiad â Chaernarfon? Dwi’n byw yng Nghaernarfon ers 2020.

Disgrifia dy hun mewn tri gair. Gweithgar, Penderfynol, Hyderus

Nickname? Ceu, Ceur, K

Unrhyw hoff atgof plentyndod? Helpu Taid allan ar y ffarm yn nhopia’ Llan Ffestiniog

Y digwyddiad achosodd fwyaf o emabaras iti? Methu meddwl am unrhyw digwyddiad pennodol.

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn? Does na ddimbyd yn dod ar blat!

Pwy yw dy arwr? Dwi’m yn meddwl fod gynai un.

Y peth gorau am Gaernarfon? Y ffaith ei fod hi mor Gymraeg yma.

Beth yw dy ddiddordebau? Gwario amser gyda fy Nheulu, Gwylio Slopestyle MTB, Technoleg Newydd, Gweithio

Oes gennyt ti ofn rhywbeth? Nagoes

Pryd wnes di grio ddiwethaf? Cwpwl o fisoedd yn ol

Beth yw dy hoff air? Arallfydol

Hoff ffilm, lyfr neu albym a pham? Ffilm – About Time, Stori Dda!

Beth yw dy ddiod arferol? Coffi… wrth gwrs! neu Gunness chicklyd yn y pub!

Beth yw dy hoff bryd o fwyd? Cinio Nadolig.

Beth ydy’r ffaith fwyaf diddorol amdanat? Dwi wedi ymweld a 25 gwlad yn Ewrop

Beth yw/oedd dy uchelgais mewn bywyd? Bod yn Fodlon

Sut fasa ti’n treulio dy ddiwrnod olaf ar y blaned? Gyda fy Nheulu a Ffrindiau

Petai modd i ti gael bod yn unrhyw un neu unrhyw beth arall, pwy/beth fasa ti’n ddewis?  Dwi’n meddwl swni’n gath, crwydro drwy’r nos a byta, cysgu a chillio drwy’r dydd… Goals.

Naill ai neu:

  1. Te neu goffi?  Coffi.. obvs
  2. Y traeth neu’r mynyddoedd? Mynyddoedd, ti methu tynu’r Blaenau Ffestiniog allan o’r hogyn
  3. Nadolig neu ben-blwydd?  Nadolig, Dwi’n casau fy Mhemblwydd!
  4. Ffilm neu nofel?  Ffilm
  5. Creision neu siocled? Siocled   

Pwy ti’n enwebu at fis Mehefin?

Arwyn Herald!