Enw – Gethin Thomas
Gwaith – Plastrwr/adeiladwr/chwara fo Ben Twthill
Cysylltiad – Yng ngwraig yn Cofi a mhlant yn hanar cofis
Disgrifiad – Dwi’m yn siwr
Nickname – Geth Gwibdaith ma siwr….
Atgôf plentyn? Cael mynd i siop i nôl fish fingers a da dads efo Nain
Y digwyddiad achosodd fwyaf o embaras i ti? Troi fyny yn Llandeilo i neud gig a gweld ar y poster ar y drws na wsos wedyn oedd o
Beth ydi’r peth pwysicaf ti wedi’i ddysgu? – Bod malwod o rar ddim yn neis i futa
Pwy ydi dy arwr? Malcom siop am fod yna trwy’r amsar
Beth ydi’r peth gorau am Gaernarfon? Y Cymreictod
Beth ydi dy ddiddordebau? Cerddoriaeth a mynd i’r Oval i watchad y Cofis
Wyt ti ofn unrhyw beth? Dwi’m rili ishio marw ond na, ddim fel arall
Pryd nesdi grio ddiwethaf? Pan oni’n chwil rhywben
Beth ydi dy hoff air/ymadrodd? Blydihel
Hoff Album? O’r Sbensh Mim Twm Llai oherwydd yr adeg gafodd o ei ryddhau oeddi’n amsar da a llawar o’r caneuon yn berthnasol i pawb
Hoff ddiod? Guinness
Hoff bryd o fwyd? Hmmmm….. anodd…. dibynnu sud dwi’n teimlo a pa ddiwrnod ydi hi….. Cyri
Ffaith diddorol? Aethoni i watchad gem Scarlets yn Llanelli, darllan y rhaglen ag oedd rhywun wedi gofyn wrth Ken Owens pwy oedd ei hoff fand….. Gwibdaith Hen Frân oedd ei ateb!
Oes gen ti uchelgais? Jysd bod yn hapus
Beth fyse ti’n gwneud ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned? Mynd am dro efo’r teulu yn bora a Twthill Vaults yn pnawn
Os fysa opsiwn i fod yn unrhywun arall, pwy fysa ti’n ddewis? Fats Domino i allu chwara piano
Hwn ta’r llall?
Te neu goffi? Coffi
Y traeth ta’r mynyddoedd? Mynyddoedd
Nadolig ta penblwydd? Penblwydd
Llyfr ta ffilm? Ffilm
Creision ta siocled? Siocled
Pwy ti’n enwebu at fis Chwefror? Manon Awst