Mae GISDA wedi derbyn cefnogaeth cynllun Taith, Llywodraeth Cymru i ddatblygu cysylltiadau rhwng Gwynedd a Chernyw. Bydd GISDA yn gweithio mewn partneriaeth gyda chwmni Adra Tai Cyf i archwilio effaith twf cynyddol mewn twristiaeth yn y ddwy ardal ac yna mesur effaith hynny ar yr iaith, diwylliant a gallu phobl ifanc i fyw yn eu cymunedau mewn modd fforddiadwy.
Mae Llywodraeth Cymru wedi arwyddo ‘Cytundeb Cernyw a Chymru’ i adeiladu ar y cyswllt amlwg rhwng ein Gwlad a Chernyw. Yn ystod y daith bu staff yn ymweld â sefydliadau amrywiol gan gynnwys St. Petrocs, Harbour Housing, The House a Swyddfa iaith Cernyw, Cyngor Cernyw i enwi rhai.
Bydd ADRA a GISDA yn cynnal y cysylltiad hwn ar lein gyda’r gobaith o wahodd rhai o’r sefydliadau hyn i Wynedd yn fuan. Bydd GISDA hefyd yn rhagbaratoi ar gyfer taith arall fydd yn mynd o Wynedd lle bydd 5 o bobl ifanc yn teithio yno i gael profiadau newydd a chreu cysylltiadau. Y gobaith yw datblygu perthynas hirdymor ac adeiladu ar gyfleon dysgu amrywiol a rhannu arferion da. Eleni, credir bod 13,140 o dai yn cael eu ystyried fel ail dai yng Nghernwy. Mae Cyngor Cernyw wedi cytuno i godi 100% o bremiwm ychwanegol ar Gyngor Treth ail dai o Ebrill 1af 2025 ymlaen sef dwblu eu ffi bresennol. Mae llawer yn debyg i newidiadau mewn polisi sydd wedi ac yn cael ei gyflwyno gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Môn ac roedd yn ddiddorol dysgu am eu dulliau o gyflwyno newid er budd pobl leol er bod nifer yn ei erbyn.
Mae mudiad cenedlaethol yn Lloegr sef Action on Empty houses yn nodi bod ¼ miliwn o dai yn sefyll yn wag yn Lloegr ac mewn cyfnod ble mae crisis cenedlaethol o ran digartrefedd mae gweld bod y ffigwr hwn ar gynnydd yn anfoesol ac mae’r mudiad yn galw am newid ar frys i gartrefu teuluoedd. O ran yr iaith Cernyweg, mae ar gynnydd ac mae cefnogaeth i hynny o bob cwr. 500 oedd wedi nodi yn y cyfrifiad olaf eu bod yn rhugl yn y Gernyweg ond cawsom sgyrsiau cadarnhaol am eu cynlluniau cyffrous i gynyddu’r ffigwr hwn ac roeddent yn hynod o falch o’r cysylltiad gyda Chymru a’r iaith Gymraeg ac yn croesawu pob cymorth.Hoffai GISDA ddiolch i bawb o’r sefydliadau am y croeso, i Gemma a Jess o ADRA ac i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r ymweliadau.