gan
Elliw Llŷr
Bydd Cymro Vintage yn agor drws ei Siop dydd Sadwrn yma i werthu casgliad o ddillad chwaethus.
Mae Dylan, sydd yn gwerthu ar lein a pop-ups o gwmpas Caernarfon a Bangor, bellach yn mentro i fod a phresenoldeb sefydlog ar Stryd Plas. Cychwynnodd Dylan werthu ar lein tua dwy flynedd yn ôl tra yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor.
‘Bydd digon o grysau chwys, crysau pêl-droed, Carhartt, Nike a.y.b. ar gael yn y Siop’ meddai Dylan gan ychwanegu bod ‘agor Siop yng Nghaernarfon yn le perffaith i gynnal fy musnes’
Gyda nifer yn dymuno pobl lwc iddo ar Facebook ewch draw i weld dros eich hun, bydd y Siop yn agor 10am tan 6pm 27 Ebrill.
.
- Anwybyddu
- Dysgu
- Nôl
- Nesaf