Cynhadledd Meddwl Ymlaen Gwynedd a Môn 2024

GISDA

Gisda Cyf
gan Gisda Cyf

Ar deuddegfed o Fedi cawsom gyfle i fynychu cynhadledd arbennig  Meddwl Ymlaen Gwynedd a Môn 2024 ym Mangor fel partner swyddogol y prosiect.

Cynhadledd i arddangos gwaith y prosiect, ochr a’n ochr â phartneriaid, ac amlygu pwysigrwydd gwrando ar leisiau pool ifanc  yn ogystal a hyrwyddo iechyd meddwl, lles a gwytnwch.

Roedd y diwrnod yn llawn ysbrydoliaeth, gyda siaradwyr gwadd profiadol iawn.

Dechreuodd cyffro’r bora gyda chyflwyniad gan Sarah Crawley, cyfarwyddwr gwasanaethau plant Barnado’s. Roedd hi’n bleser gwrando ar Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru a dysgom lawer am y gwaith hanfodol sy’n digwydd i ddiogelu plant gydag iechyd meddwl. I orffen y bore, cyflwyniad pwerus iawn gan Paula Timms, prif swyddog gweithredol Kidscape am y broblem gymdeithasol o fwlio ymysg pobl ifanc a phlant.

Ar ôl cinio a chyfle i rwydweithio, cafodd Nick Elston y llwyfan i gyflwyno araith ysbrydoledig a rhannu ei brofiad personol yn agored. I ddilyn cyflwynwyd fframwaith Iechyd Meddwl a Lles, NYTH a’r gwaith sydd wedi digwydd hyd yma gan Mille Boswell a Sharon Hinchliffe.

I orffen gyda uchafbwynt y gynhadledd, cynhaliwyd sesiwn banel gyda’r arweinwyr ifanc. Diolch o galon a llongyfarchiadau mawr i’r arweinwyr ifanc am eu gwaith gwych ar y prosiect, am drefnu’r diwrnod, ac am eu cyfraniadau agored ac ysbrydoledig heddiw! Roeddem yn arbennig o falch o un o bobl ifanc sydd yn cael ei chefnogi gan GISDA.

Rydym yn edrych ymlaen parhau i gydweithio ar y bartneriaeth Meddwl Ymlaen yn y 4 mlynedd nesaf i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn creu newid!

Dweud eich dweud