Cystadleuaeth Cyrri: galw am gystadleuwyr

Ffansi dy hun yn dipyn o gwc?

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn un o wyliau bwyd mwyaf Cymru, ac mae’n costio mwy na £40,000 i’w chynnal bob blwyddyn. O’r herwydd mae pwyllgor yr ŵyl yn cynnal digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i godi arian.

Un o gonglfeini calendr yr ŵyl erbyn hyn yw’r gystadleuaeth cyrri flynyddol, ac eleni bydd y gystadleuaeth fymryn yn wahanol.

Yn ôl Osian Owen, aelod o bwyllgor yr ŵyl:

“Mae syniad y gystadleuaeth yn syml.

“Mae croeso i unrhyw un gofrestru i gystadlu o flaen llaw, does ’na ddim rhaid ichi fod yn gogydd proffesiynol – ysbryd y noson ydi rhannu bwyd cartref o ansawdd da mewn awyrgylch hamddenol.

“Byddwn yn gwahodd cystadleuwyr i ddod â chrochan fawr o gyrri cartref ar y noson, ac yna bydd y Cofis yn penderfynu enillydd y gystadleuaeth drwy sgorio pob cyrri ar gardiau arbennig.”

Ond mae digwyddiad eleni yn argoeli i fod yn wahanol i flynyddoedd canlynol. Am y tro cyntaf, cynhelir dwy gystadleuaeth, un gyda chogyddion amaturaidd, a’r llall yn gystadleuaeth rhwng cynrychiolwyr bwytai cyrri’r dre.

Aeth Osian yn ei flaen:

“Tydan ni ddim yn brin o fwytai cyrri yng Nghaernarfon, a pha ffordd well o hyrwyddo’r tai bwyta hynny na Chystadleuaeth Cyrri?

“Mae’r pwyllgor yn pwysleisio na fydd cogyddion proffesiynol a chystadleuwyr amaturaidd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.”

Mae’r trefnwyr yn credu bod y fformat o flasu’n ddall yn caniatáu i fynychwyr feirniadu ar sail blas y cyrri’n unig.

“Felly, yn ogystal â chystadleuwyr, bydd angen ffans cyri i feirniadu ar y noson. Dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau a digon o win; mae’n achlysur hwyliog iawn.

“Mae’r gystadleuaeth yn crisialu gweledigaeth yr ŵyl fwyd, sef dathlu’r agwedd gymdeithasol o rannu bwyd da.”

“Mae’r tocynnau’n £15 ac ar gael ar-lein neu yn siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon.”

Mae’r trefnwyr yn pwysleisio y bydd rhestr o gynhwysion bob cyrri yn cael ei arddangos ar y noson, ac mai cyfrifoldeb mynychwyr yw adnabod unrhyw alergenau.

Cynhelir 7fed Cystadleuaeth Cyrri blynyddol Caernarfon ar Chwefror 9 yn Feed My Lambs, Caernarfon am 7pm. Dylai’r sawl sy’n dymuno cystadlu gysylltu lenwi’r ffurflen hon.