Mae GISDA yn gyffrous i gyhoeddi y bydd Balchder yn dychwelyd yn ôl i Gaernarfon! Wedi’i drefnu ar gyfer dydd Sadwrn, Mehefin 29ain, bydd y diwrnod llawn hwyl hwn yn ddathliad bywiog o gynhwysiant, amrywiaeth a chymuned.
Mae croeso i bawb ymuno yn y dathliadau! Bydd y diwrnod yn cynnwys gorymdaith ddisglair drwy strydoedd hanesyddol Caernarfon, amrywiaeth o adloniant, siaradwyr ysbrydoledig, stondinau a gweithgareddau difyr, a chyfranogiad gan fusnesau lleol, gan wneud Balchder Caernarfon yn ddathliad gwirioneddol gymunedol.
Mae Balchder Caernarfon 2024 hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth am yr heriau y mae pobl ifanc LHDTC+ yn eu hwynebu, a bydd y dathliad yn gyfle i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo cefnogaeth a derbyniad.
Bydd yr amserlen o ddigwyddiadau yn cael eu datgelu yn yr wythnosau nesaf. Yn y cyfamser, gallwch ddysgu mwy a chael y newyddion diweddaraf trwy ymweld â thudalen y digwyddiad ar Facebook: tinyurl.com/Balchder-Caernarfon-Pride
Mae GISDA wrthi’n chwilio am nawdd gan fusnesau a sefydliadau lleol i gefnogi Balchder Caernarfon 2024 a sicrhau ei lwyddiant. Bydd noddi’r digwyddiad yn cynnig buddion gwerthfawr. Mae pecynnau nawdd yn cael eu cwblhau a byddant ar gael yn fuan.
Maent hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig i helpu i wneud y digwyddiad yn ddiwrnod i’w gofio!
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â GISDA ar 01286 671153 neu gisda@gisda.co.uk am ragor o wybodaeth.