Gwibdaith Gwybodaeth Dementia Gwynedd

Cwestiwn i’w holi am ddementia? Eisiau sgwrs gyda arbenigwr yn y maes?

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd

Wythnos yma mae cyfle i holi cwestiynau am ddementia neu chael sgyrsiau un i un gyda rhai o weithwyr proffesiynol yn y maes mewn sawl lleoliad yng Ngwynedd.

Ddydd Gwener bydd cyfle i fynd draw i Porthi Dre, Caernarfon rhwng 11 y bore  a 2 y prynhawn. Cewch gyfle am baned a sgwrs anffurfiol neu cyfle i holi cwestiynau i weithwyr proffesiynol.

Mae sawl mudiad sy’n gweithio o fewn y maes am fod yn bresennol gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, Cynnal Gofalwyr, Dementia Actif Gwynedd, Y Gymdeithas Alzheimer’s, Cyngor Gwynedd, Gofal a Thrwsio, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Ymddiredolaeth Gofalwyr, Prosiect Eiriolaeth Age Cymru ‘HOPE’ ac Age Cymru Gwynedd a Môn.

Bydd llond lle o wybodaeth ac arbenigedd ac yn gyfle gwych i gael mynediad i gymorth o dan un to.

Mae hefyd cyfle i fwynhau sesiwn Adweithieg Dwylo rhwng 12 a 1 a hefyd bydd cinio ar gael – ond rhaid archebu. Gallwch archebu lle i’r digwyddiad trwy ffonio 01248 370797 neu trwy ebostio emmajaynequaeck@gwynedd.llyw.cymru

Croeso cynnes i bawb.