Mae Dewi Jones, y Cynghorydd Sir dros ward Peblig yng Nghaernarfon wedi ennill gwobr genedlaethol Seren y Dyfodol, er cof am y diweddar Steffan Lewis, yr Aelod o Senedd Cymru.
Cyflwynwyd y wobr i Dewi, 27, yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru gan fam Steffan, Gail Davies. Yr enw arall a ddaeth i’r brig ar y noson oedd Niamh Salkeld o Flaenau Gwent.
Ymgeisiodd Dewi am sedd ar Gyngor Gwynedd ac ennill yr etholiad i gynrychioli trigolion Peblig nôl ym mis Mai 2022. Mae’n Gynghorydd Tref Caernarfon ac ef yw Dirprwy Faer presennol Caernarfon. Mae’n athro ysgol uwchradd wrth ei waith, yn gweithio’n rhan amser yn yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yng Nghymru, sef Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy. Fe dreuliodd amser yn gweithio fel Gweithiwr Ieuenctid i Gyngor Gwynedd yn ystod y pandemig, hefyd
Mae Dewi yn mwynhau gweithio gyda phobl ifanc ac mae hynny wedi arwain at wirfoddoli yn wythnosol yng Nghlwb Ieuenctid Porthi Dre ar nos Fercher sy’n cynnig pryd poeth am ddim, lloches i fwynhau, cymdeithasu ac ymlacio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Dewi hefyd yn weithgar gyda Chanolfan Gymuned Noddfa yn y dref. A thros y misoedd diwethaf, mae’r Cynghorydd, fel rhan o’r tîm o wirfoddolwyr, wedi sicrhau buddsoddiad ariannol o dros £100,000 i uwchraddio’r system wresogi a’r adeilad i fod yn fwy cynaliadwy a gwyrdd. O fewn yr adeilad mae neuadd eang sy’n gartref i nifer o weithgareddau a digwyddiadau cymunedol, ystafell hyfforddiant, gofod swyddfeydd a chegin.
Mae Dewi yn aelod o Blaid Cymru ers yn 18 oed, a bu’n ymgyrchydd brwd gyda Phlaid Ifanc tra yn y Coleg ym Mangor. Bryd hynny, bu’n aelod brwdfrydig o bwyllgor gwaith Plaid Ifanc. Dewi hefyd oedd Cadeirydd Pwyllgor Etholaeth prysur Arfon am ddwy flynedd o 2020 i 2022.
Ysgogwyd Dewi i roi rhywbeth yn ôl i’w gymuned yn ystod cyfnod y clo. Mynychodd y Clwb Rygbi yng Nghaernarfon un prynhawn i drafod sut byddai modd iddo ef a nifer o bobl eraill y dref helpu eraill oedd mewn angen. Daeth o’r cyfarfod hwnnw yn Gydlynydd Cofis Curo’r Corona, a thros y ddwy flynedd wedyn, bu’n gweithio’n wirfoddol i’r corff gyda’i gyd-gynghorwyr tref a sirol presennol yng Nghaernarfon, Cai Larsen a Dawn Lynne Jones.
O godi neges i gludo presgripsiynau, bu’n gweithio’n ddiwyd i gefnogi trigolion bregus y dref dros fisoedd caled Covid-19.
Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd sy’n arwain Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Rydym yn ymfalchïo bod cynifer o gynghorwyr ifanc brwdfrydig wedi eu hethol i Gyngor Gwynedd nôl ym mis Mai 2022 a bod canran uchel o’r rheiny, hefyd yn ferched.
“Mae’r Cynghorydd Dewi Jones, yn un o’r bobl ifanc hynny, ac mae ei syniadau, ei frwdfrydedd a’i feddwl gwleidyddol yn heintus. Rydym fel cyd-gynghorwyr iddo yng Ngwynedd yn ei longyfarch ac yn hynod o falch ei fod wedi derbyn yr anrhydedd hon.
“Bydd cymuned tref Caernarfon, hefyd yn sicr o ddathlu ei lwyddiant. Fel bachgen ei filltir sgwâr, mae Dewi yn enghraifft o gynghorydd sy’n adnabod ei bobl, sy’n deall yr heriau ond sy’n falch o gael cyfrannu i’w gymuned, mewn ffordd bositif ac adeiladol. Llongyfarchiadau mawr i ti Dewi ar dy gamp!”