Gwyl Delynau Cymru 2024

Gwledd o gerddoriaeth telyn o Gymru i Golombia

gan Meinir Llwyd Roberts

Ar y 26ain a’r 27 ain o Fawrth roedd Galeri yn fwrlwm o delynau wrth i Ŵyl Delynau Cymru 2024 gael ei chynnal. Trefnir yr Wyl flynyddol hon gan Ganolfan Gerdd William Mathias.

I agor yr Wyl cafwyd darlith-ddatganiad hynod ddifyr gan sylfaenydd yr Wyl, Elinor Bennett, yn olrhain hanes Edward Jones, Bardd y Brenin. Bu cydweithio unwaith eto eleni rhwng yr Wyl ac Ymddiriedolaeth Nansi Richards gyda chystadleuaeth Ysgoloriaeth Nansi Richards i delynorion o dan 25oed o Gymru a gafodd ei chynnal ar noson gyntaf yr Wyl. Llongyfarchiadau mawr i Annest Davies ar berfformiad oedd yn llwyr deilwng o’r ysgoloriaeth o £1500.

Dydd Mercher y 27ain croesawyd 35 o delynorion o 8 i 60+ oed i gwrs undydd yr Wyl. O dan hyfforddiant y tiwtoriaid profiadol Alis Huws, Catrin Morris Jones, Mared Emlyn a Tudur Eames bu’r telynorion yn cymryd rhan mewn gweithdai a pharatoi at berfformiad arbennig ddiwedd y prynhawn pan roddwyd yr holl delynau ar falconiau Galeri i berfformio gyda’i gilydd. Yn ystod y dydd cafodd pawb hefyd gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy Jazz gyda’r delynores Amanda Whiting.

Daeth yr Wyl i ben gyda chyngerdd arbennig ‘O Gymru i Golombia’ yn Theatr Galeri. Cafwyd perfformiadau gwefreiddiol gan y delynores glasurol Alis Huws, y delynores Jazz Amanda Whiting a’r telynor o Golombia Diego Laverde Rojas.

Nododd Catrin Morris Jones, Trefnydd yr Wyl “Rydym yn ddiolchgar i bawb wnaeth gydweithio efo ni i sicrhau Gwyl lwyddiannus arall. Diolch arbennig i Telynau Vining a Telynau Salvi am eu nawdd hael ac i’n partneriaid Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb yn ol i Galeri ar gyfer Gŵyl 2025 fydd yn cael ei chynnal ar yr 15eg a’r 16eg o Ebrill.”