Byw’n Dda, Byw’n Iach – Digwyddiad arbennig i bobl hŷn yr ardal

Dewch i ddysgu mwy am bopeth sydd ar gael i’ch helpu i heneiddio’n dda

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd

Ydych chi wedi bod yn ystyried beth sydd ar gael i helpu rhywun i heneiddio’n dda? Ydych chi eisiau dysgu mwy am yr holl gymorth a’r holl gyfleoedd grêt sydd ar gael am ddim? Dewch draw i Ganolfan Tennis Byw’n Iach Arfon Ddydd Gwener (01/11) rhwng 10 a 2 i ddysgu mwy.

Mae’r digwyddiad Byw’n Dda, Byw’n Iach yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan Gyngor Gwynedd a sawl partner i ddathlu bod Gwynedd wedi ei chydnabod fel cymuned oed-gyfeillgar.

Bydd cyfle i gael blasu sesiynau Byw’n Iach, cyfle i ddysgu mwy am dros 20 o bartneriaid, cyfle i gael profion iechyd syml a chyfle i gael cyngor ariannol a llawer mwy. Bydd hefyd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn bresennol yn y digwyddiad i glywed mwy am yr hyn sy’n bwysig i chi.

Bydd cinio am ddim i bawb sy’n mynychu a phaned am ddim trwy’r dydd. Nid oes gofyn archebu lle dim ond troi fyny unrhyw bryd rhwng 10 a 2 am wledd o wybodaeth a chyngor.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01286 682818 neu e-bostio mirainllwydroberts@gwynedd.llyw.cymru 

Amserlen ychwanegol i’r stondinau gwybodaeth:
11:15 – Sesiwn Blasu Actif am Oes
12:00 – Cinio am ddim a sgwrsio gyda Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

13:00 – Ydych chi’n colli allan? Cyfle am sgwrs un i un a chyngor ariannol
13:30 – Cyflwyniad gan Rhian Bowen-Davies
Trwy’r dydd – Blasu beics Antur, Boccia, Piccolo, paneidiau, cyngor a gwybodaeth

Rhestr llawn am y mudiadau presennol:

  • Gofal a Thrwsio
  • Cyngor Gwynedd – Cymorth Costau Byw
  • Cyngor Gwynedd – Teleofal
  • Cyngor Gwynedd – Cefnogaeth Gofalwyr
  • Cyngor Gwynedd – dewis.cymru
  • Llwybr Cefnogaeth Cof
  • Dementia Actif Gwynedd
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Herbet Protocol
  • Porthi
  • Dre
  • Yr Orsaf
  • Antur Waunfawr
  • BCUHB Stroke Prevention Nurses
  • BCUHB Smoking Cessation
  • BCUHB Older Peoples Mental Health
  • BCUHB Dental
  • Atal Cwympiadau / Ffysiotherapi
  • Gwasanaeth Tân
  • Cynnal Gofalwyr
  • HOPE – Age Cymru
  • Age Cymru Gwynedd a Môn
  • Byw’n Iach
  • Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Dweud eich dweud