Yn ystod Wythnos Hanner Tymor Mai yn flynyddol mae hi’n amser i blant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru deithio draw i Eisteddfod yr Urdd i gystadlu ar ôl misoedd o waith caled.
Nid yn unig y gwaith sydd i’w weld ar y llwyfan sydd i’w ddathlu yn ystod yr ŵyl ond cawn hefyd ddathlu campau’r gwaith cartref – llongyfarchiadau i bawb gystadlodd a ddaeth i’r brig gydag unrhyw un o’r meysydd gwaith hynny.
Yn ystod yr wythnos daeth sawl medal yn ôl i Gaernarfon a dyma rai ohonynt:
- Ysgol y Gelli yn cipio’r wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Cân Actol.
- Cyntaf i Begw a Cadi gyda’r ddeuawd Cerdd Dant Blwyddyn 7 i 9.
- Cyntaf i Ysgol Syr Hugh Owen gyda Pherfformiad Theatrig o Sgript i flynyddoedd 7 i 9
- Cerddorfa/Band Blwyddyn 7 i 9 Ysgol Syr Hugh Owen hefyd yn derbyn y wobr gyntaf.
- Côr TB Blwyddyn 13 ac Iau yn gyntaf (Ysgol Syr Hugh Owen)
- Côr SATB Blwyddyn 13 ac Iau yn gyntaf (Ysgol Syr Hugh Owen)
- Aelwyd Eryri yn gyntaf yn y Grŵp HipHop/Stryd/Disgo Blwyddyn 7 ac o dan 19 oed.
- Meilyr Tudur Davies yn ail gydag Unawd Gitâr Blwyddyn 7 i 9 ac yn drydydd yn yr Unawd Pres Blwyddyn 7 i 9.
- Gwen Rowley yn ail yn y ddawns hiphop/stryd/disgo Unigol Blwyddyn 10 ac o dan 25 mlwydd oed.
- Cadi Elis Roberts yn ail gyda Pherfformiad Theatrig Unigol Blwyddyn 7 i 9.
- Alis Glyn Tomos yn ail yn y gystadleuaeth Band/Artist Unigol.
- Parti Bechgyn Blwyddyn 7 i 9 yn cipio’r drydedd wobr (Ysgol Syr Hugh Owen).
- Cynan Prys Griffiths yn drydydd yn yr Unawd Pres Blwyddyn 10 ac o dan 19 mlwydd oed.
- Parti Merched Blwyddyn 7 i 9 Ysgol Syr Hugh Owen yn Drydydd.
- Côr SA Blwyddyn 9 ac iau Ysgol Syr Hugh Owen hefyd yn drydydd.
- Grŵp Hana o Aelwyd Eryri yn drydydd yn y ddawns aml-gyfrwng Blwyddyn 7 ac o dan 25 mlwydd oed.
Llwyddiant a hanner i bawb! A llongyfarchiadau hefyd i bawb wnaeth gystadlu ym Meifod, mae cyrraedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn gamp yn ei hun.
Yn ôl Pennaeth yr Adran Gerdd yn Ysgol Syr Hugh Owen, Delyth Hughes:
Mae cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn bwysig i ni fel ysgol oherwydd mae’n rhoi llwyfan i’n pobl ifainc i fagu hyder ac i wneud hynny yn y Gymraeg. Mae hynny’n golygu gymaint.
Mae llwyddiant plant a phobl ifanc Caernarfon yn rhywbeth i ni fel tref ymfalchïo ynddo ac yn ôl Maer y Dref, Dewi Jones:
Llongyfarchiadau i holl blant a phobl ifanc Caernarfon fuodd yn cystadlu yn Eisteddfod Yr Urdd eleni. Roedd hi’n wych gweld gymaint ohonynt yn mwynhau ar y llwyfan. Mae’r Urdd yn drysor cenedlaethol sy’n rhoi llu o brofiadau gwerthfawr i’n plant a phobl ifanc. Mae hefyd angen diolch i’r athrawon a hyfforddwyr am eu hymdrechion wrth hyfforddi.
Llongyfarchiadau eto ac i’r rheiny ohonoch nad oedd yn gwylio’r Eisteddfod yr wythnos ddiwethaf mae modd mwynhau’r perfformiadau buddugol ar wefan YouTube yr Urdd – https://www.youtube.com/@Eisteddfod
*Mae’r wybodaeth wedi ei gasglu o app yr Urdd ac mae siawns ein bod wedi methu gwobr – os ydym a fuasech cystal a chysylltu a gallwn ychwanegu’r wybodaeth. Ymddiheuriadau ymlaen llaw*