Perthynas GISDA efo adran addysg Gwynedd a Môn

GISDA

Gisda Cyf
gan Gisda Cyf

|Perthynas GISDA efo adran addysg Gwynedd a Môn. Mae GISDA yn falch o gydweithio gydag Adran Addysg Gwynedd a Môn i gynnig gwasanaethau cymorth hanfodol i fyfyrwyr sy’n ceisio gwella eu perfformiad yn y dosbarth. Boed hynny oherwydd heriau gyda phresenoldeb, cymhelliant, diddordeb, diffyg sgiliau, neu yn gweld hi’n anodd ymdopi mewn dosbarth am unrhyw reswm.

Mae gennym brofiad o weithio gyda phobl ifanc bregus ac yn darparu cymorth wedi’i deilwra i ddiwallu eu hanghenionYn ystod tymor yr haf 2024, rydym wedi darparu ein gwasanaethau i bedwar grŵp o bobl ifanc ar draws tair ysgol leol: Ysgol Syr Thomas Jones, Ysgol y Moelwyn ac Ysgol Ardudwy.

Mae ein pecyn addysg amgen “Byw’n Annibynnol” yn cael ei gynnal dros 10 wythnos ac yn cynnwys amryw fodiwlau fel sgiliau coginio, hylendid personol, rheoli amser, a chyllidebu. Yn ogystal, rydym yn cynnig ymyriadau therapiwtig, gan gynnwys gweithgareddau celf gyda’n tîm creadigol a sesiynau rheoli emosiynau trwy ein prosiect FEDRA’I. Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol i bobl ifanc arwain bywydau annibynnol a hapus!Os hoffech chi ddysgu mwy am ein rhaglen, mae croeso i chi gysylltu â ni.