Sesiynau Academi Sbarduno

Sesiynau Adolygu yn Cefnogi Myfyrwyr Baratoi ar gyfer Arholiadau ‘r Haf.

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes

Sbarduno

Crëwyd Ysbyrdoli gan Sbarduno yn 2019 i drosglwyddo gwybodaeth, sgiliau addysgol a diwydiannol i bobl ifanc o bob oed.

Bwriad y perchennog, Awen Ashworth, yw ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfa o fewn STEM ac i feithrin eu diddordeb mewn Gwyddoniaeth.

Blaenoriaeth Ysbrydoli gan Sbarduno yw gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau a darparwyr eraill i hyrwyddo’r negeseuon allweddol o fewn addysg, boed hynny trwy STEM, llesiant neu Sgiliau Allweddol.

Mae’r Sesiynau Academi yn cael eu harwain gan athrawon brwdfrydig a phrofiadol, a hynny yn ystod tymor yr ysgol ac ar ôl oriau ysgol. Maent yn canolbwyntio ar ddatblygu hyder y disgyblion o fewn Mathemateg a phynciau STEM.

Cynradd

Mae’r broses gofrestru ar gyfer yr Academi Mathemateg Cynradd ac Uwchradd olaf y flwyddyn academaidd yma – AR AGOR!

Lle: Clwb Pêl-droed Bethel (LL55 3AA) Cynradd: Bob nos Lun yn ystod tymor ysgol. Uwchradd: Bob nos Fercher yn ystod tymor ysgol. Blwyddyn 3 i Flwyddyn 10. Am rhagor o wybodaeth neu i gofrestru: claire@sbarduno.com

Uwchradd

Mae Sbarduno wedi arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda Choleg Menai mis Mawrth. Gyda’r bartneriaeth â nhw bellach yn swyddogol – mae’r cwmni yn edrych ymlaen i drefnu digon o weithdai, cyfleoedd ac ysbrydoli pobl ifanc Gogledd Cymru!

Mae wythnos ar ôl i gofrestru ar gyfer y sesiynau adolygu Gwyddoniaeth Blwyddyn 10.

Coleg Menai, Llangefni;

Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau a Phwllheli

Ar-lein!

Pryd? Gwyliau Hanner Tymor Sulgwyn. Haen Uwch a Sylfaenol

https://sbarduno.com/cyswllt/

Byddwch yn Gyflym ……. Cyntaf i’r Felin ….